MANYLION
  • Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa Gyflog S01 - £36,527 - £38,945 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Prosiect Dysgu a Datblygu

Coleg Penybont

Cyflog: Graddfa Gyflog S01 - £36,527 - £38,945 y flwyddyn

Arweinydd Prosiect Dysgu a Datblygu
Graddfa Gyflog S01 - £36,527 - £38,945 y flwyddyn
Llawn Amser (37 awr yr wythnos) a Pharhaol

Ydych chi'n weithiwr proffesiynol Dysgu a Datblygu angerddol ac arloesol sy'n barod i arwain prosiectau trawsnewidiol? Mae Coleg Penybont, sefydliad arobryn sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth, yn chwilio am Arweinydd Prosiect Dysgu a Datblygu i ymuno â'n tîm deinamig.

Diben y swydd: Mae hwn yn gyfle cyffrous i arwain prosiectau a rhaglenni dysgu a datblygu arloesol o fewn y Coleg, a chyfrannu at strategaeth Dysgu a Datblygu cynhwysfawr. Byddwch yn meithrin cysylltiadau â diwydiant ar gyfer lleoliadau dysgu profiadol ar gyfer ein gweithlu, ac yn sicrhau bod cyfleoedd dysgu yn cyd-fynd â blaenoriaethau allanol ehangach a themâu cydraddoldeb. Wrth oruchwylio pob agwedd ar Ddysgu a Datblygu, gan gynnwys rheoli cyllideb, byddwch hefyd yn cefnogi rheoli perfformiad ac yn datblygu a gwella system rheoli dysgu'r Coleg, Dysgu.

Gyda gradd mewn Adnoddau Dynol, Addysg, Datblygu Sefydliadol, neu faes cysylltiedig, bydd gennych brofiad profedig o gyflwyno prosiectau dysgu a datblygu o'r dechrau i'r diwedd, darparu, rheoli digwyddiadau, a phrofiad o arwain prosiectau sy'n cynnwys timau traws-swyddogaethol a rhanddeiliaid uwch.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.