MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 6 - £27,269 - £30,060
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cyswllt Cyflogwyr a Lleoliad Gwaith (Ysbrydoli’r Dyfodol)

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 6 - £27,269 - £30,060

Mae'r swyddi hyn yn cael eu hariannu ar hyn o bryd hyd at 31/12/2025 drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae Gwaith yn yr Arfaeth yn chwilio am Swyddogion Cyswllt Cyflogwyr a Lleoliad Gwaith deinamig sy'n cael ei yrru gan ganlyniadau i chwarae rhan ganolog yn y prosiect Ysbrydoli'r Dyfodol. Mae'r prosiect yn fenter paratoi ar gyfer gwaith a phrofiad gwaith wedi'i theilwra a gyflwynir ar draws ysgolion uwchradd yn Sir Benfro, gan ganolbwyntio'n bennaf ar gryfhau lleoliadau gwaith a meithrin perthnasoedd ystyrlon â busnesau lleol.

Mae'r prosiect wedi'i gynllunio i wella cyflogadwyedd a sgiliau trosglwyddadwy disgyblion Blwyddyn 11, 12, a 13 (15-18 oed) sy'n pontio i fyd gwaith ôl-16 neu ddysgu sy'n canolbwyntio ar waith ôl-16.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn frwd dros greu cysylltiadau cryf rhwng addysg a busnesau lleol, pontio'r bwlch rhwng disgyblion a chyflogwyr a grymuso pobl ifanc wrth iddynt bontio i'r gweithlu a byddant yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o wella'r profiad gwaith ysgol sydd ar gael ar hyn o bryd, gan ganolbwyntio ar sgiliau gyflogadwyedd, lleoliadau gwaith, a meithrin partneriaethau hollbwysig gyda sefydliadau a chyflogwyr lleol.

Cyfrifoldebau allweddol:

Meithrin Perthnasoedd Cyflogwyr:

  • Nodi, sefydlu a meithrin partneriaethau â busnesau lleol, sefydliadau di-elw, asiantaethau'r llywodraeth, a chwaraewyr allweddol mewn amrywiol ddiwydiannau allweddol yn Sir Benfro.
  • Cydweithio â chyflogwyr i ddeall eu hanghenion a hwyluso integreiddio lleoliadau gwaith sy'n cyd-fynd â nodau'r prosiect ac amcanion dysgu'r disgyblion.
  • Cynnal cysylltiad parhaus â chyflogwyr er mwyn sicrhau perthynas gadarnhaol sy'n fuddiol i'r ddwy ochr.

Cydlynu Lleoliad Gwaith:

  • Datblygu a chynnal rhestr gynhwysfawr o gyfleoedd lleoliad gwaith posibl, gan adeiladu ar gysylltiadau presennol ac ehangu'r rhwydwaith yn barhaus.
  • Cydlynu'r broses leoli, gan gynnwys meini prawf cymhwyster, amserlennu, a neilltuo mentoriaid yn y gweithle.
  • Darparu cefnogaeth ac arweiniad i gyflogwyr a disgyblion i sicrhau profiad lleoliad gwaith di-dor a chyfoethog.

Gwella Sgiliau Cyflogadwyedd trwy Brofiad Gwaith:

  • Cydweithio â chynghorwyr sgiliau'r prosiect i alinio lleoliadau gwaith â'r cwricwlwm cyflogadwyedd a sgiliau trosglwyddadwy.
  • Sicrhau bod lleoliadau gwaith yn cyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad sgiliau allweddol, gan gynnwys cyfathrebu, gwaith tîm, datrys problemau a rheoli amser. Gwerthuso effeithiolrwydd lleoliadau gwaith o ran gwella cyflogadwyedd disgyblion a rhoi adborth ar gyfer gwelliant parhaus.

Cefnogi Cyngor Gyrfa a Datblygu Llwybrau:

  • Gweithio ar y cyd â chynghorwyr gyrfa Gyrfa Cymru mewn ysgolion i alinio lleoliadau gwaith â dyheadau gyrfa disgyblion.
  • Sefydlu llwybr symlach i ddisgyblion gael mynediad i gyngor gyrfa wyneb yn wyneb, gan bwysleisio rôl lleoliadau gwaith wrth lunio eu dewisiadau gyrfa.
  • Hwyluso cyfarfodydd tair ffordd rhwng disgyblion, cynghorwyr gyrfa yn yr ysgol, a chyflogwyr i sicrhau ymagwedd gydlynol a chefnogol.

Cymwysterau a phrofiad:

  • Profiad perthnasol mewn cyswllt cyflogwyr, datblygu busnes, neu faes cysylltiedig. Sgiliau rhwydweithio cryf a'r gallu i feithrin a chynnal perthnasoedd cadarnhaol â chyflogwyr a rhanddeiliaid.
  • Bod yn gyfarwydd ag anghenion a disgwyliadau busnesau mewn perthynas â lleoliadau gwaith a datblygu sgiliau.
  • Sgiliau cyfathrebu a thrafod rhagorol.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein neu os oes arnoch angen cymorth drwy anfon e-bost at recruit@pembrokeshire.gov.uk .
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.