MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Cross College,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £26,709.00 - £28,695.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £26,709.00 - £28,695.00
Cynorthwy-ydd Gwasanaethau Dysgwyr a ChampwsSwydd ddisgrifiad
Am y rôl:
Fel Cynorthwy-ydd Gwasanaethau Campws i’r Dysgwyr, chi fydd wyneb cyfeillgar y campws, yn cynnig cymorth hanfodol i ddysgwyr a staff fel ei gilydd. Byddwch yn cynorthwyo gyda gwasanaethau megis cludiant, costau teithio, prydau am ddim, a bathodynnau ID dysgwyr, a thrwy hynny yn fodd o wneud bywyd myfyriwr yn fwy didrafferth a mwy boddhaus. Yn y rôl blaen tŷ hon, byddwch yn creu amgylchedd croesawus ac yn sicrhau bod dysgwyr yn teimlo bod cymorth bob amser ar gael iddyn nhw. Mae’n swydd sy’n llawn o amrywiaeth a boddhad, perffaith i unigolyn sy’n hoffi gweithio gyda phobl ac yn dylanwadu’n bositif bob dydd.
Gwybodaeth Bellach:
Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.
Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.
Canllawiau Cais:
Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.
Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law
Cyswllt:
Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk