MANYLION
  • Lleoliad: Tondu Primary,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + ALN 1
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Anghenion Dysgu Ychwanegol - Ysgol Gynradd Tondu - Dros Dro

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + ALN 1

Athro/Athrawes Anghenion Dysgu Ychwanegol - Ysgol Gynradd Tondu - Dros Dro
Disgrifiad swydd
Dros dro hyd at 31 Awst 2026

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Tondu am benodi athro/athrawes egnïol a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm llwyddiannus. O fis Medi 2025, bydd yr ysgol yn croesawu Dosbarth Arsylwi ac Asesu newydd, sef darpariaeth arbenigol i 8-10 o ddisgyblion ag anghenion dysgu cymhleth.

Mae Ysgol Gynradd Tondu yn ysgol cyfrwng Saesneg sy'n darparu addysg i blant rhwng 3 ac 11 oed. Mae'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu yn ymrwymedig i sefydlu cymuned ddysgu feithringar a pharchus gydag ethos cryf, cynhwysol, lle mae diwylliant o bositifrwydd, brwdfrydedd a dyhead yn bodoli i bawb a lle mae rhagoriaeth yn safonol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

32.5 awr yr wythnos

Athro/athrawes ragorol a phrofedig.

Bod yn gyfrifol am addysgu arbenigol disgyblion ag anghenion dysgu cymhleth.

Meddu ar ddealltwriaeth ddiogel o'r diwygiadau ADY.

Meddu ar brofiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol

Yn hyblyg ac amryddawn.

Yn mwynhau gweithio'n agos gyda chydweithwyr.

Yn llawn cymhelliant ac yn drefnus.

Bod â disgwyliadau uchel o bob plentyn ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol

Profiad o gynhwysiant, gan gynnwys rheoli gwaith papur priodol a gweithio gydag asiantaethau allanol.

Cyfrannu at gymuned ehangach yr ysgol

Os oes gennych yr egni a hoffech weithio ochr yn ochr â ni, hoffem glywed gennych.

Mae'r gallu i gynnal sgwrs sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 2 Gorffennaf 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 3 Gorffennaf 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 10 Gorffennaf 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person