MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Tondu Primary,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £19,864 - £20,511 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Cymorth Dysgu - Dosbarth Arsylwi ac Asesu - Ysgol Gynradd Tondu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £19,864 - £20,511 y flwyddyn
Swyddog Cymorth Dysgu - Dosbarth Arsylwi ac Asesu - Ysgol Gynradd TonduDisgrifiad swydd 32.5 awr yr wythnos
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Tondu yn dymuno penodi Swyddog Cymorth Dysgu brwdfrydig, ymroddedig a gofalgar i weithio mewn tîm addysgu llawn cymhelliant a chroesawgar. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo'r gwaith o addysgu a dysgu disgyblion ag anghenion dysgu cymhleth o fewn Dosbarth Arsylwi ac Asesu newydd. Bydd y dosbarth yn darparu lleoliad grŵp bach ar gyfer 8-10 o ddisgyblion yn y Cyfnod Sylfaen.
Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau'r plant sydd yn ein gofal; cefnogi eu dysgu, eu datblygiad, a'u llesiant a'u helpu i dyfu'n unigolyn hyderus, chwilfrydig, a galluog sy'n barod i ffynnu mewn byd sy'n newid yn barhaus.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 02 Gorffennaf 2025
Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 03 Gorffennaf 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 10 Gorffennaf 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person