MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Litchard Primary,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon + ADY 1 £2,728
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes Dosbarth - Dosbarth ASD - Ysgol Gynradd Litchard
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon + ADY 1 £2,728
Athro/Athrawes Dosbarth - Dosbarth ASD - Ysgol Gynradd LitchardDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Tymor Penodedig – 1 Flwyddyn
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Litchard yn dymuno penodi athro/athrawes cynradd ymroddedig, creadigol ac ysbrydoledig i arwain datblygiad ein dosbarth newydd sbon ar gyfer Dysgu Sylfaenol AAA, gan gefnogi disgyblion 5–7 oed (Derbyn i Flwyddyn 2). Mae’r swydd hon ar gontract tymor penodedig am un flwyddyn i ddechrau.
Rydym yn chwilio am ymarferydd sydd:
• Â brwdfrydedd dros addysg gynradd o ansawdd uchel ac arfer cynhwysol
• Yn athro/athrawes dosbarth rhagorol gyda dull gofalgar ac addasol
• Â phrofiad o weithio mewn lleoliadau arbenigol
• Â dealltwriaeth gadarn o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn enwedig Anhwylder Sbectrwm Awtistig (ASA)
• Yn gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at fywyd yr ysgol gyfan
Mae hon yn gyfle cyffrous i lunio darpariaeth newydd a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau disgyblion ag anghenion ychwanegol.
Os ydych chi’n frwdfrydig, yn gydymdeimladol ac yn ymroddedig i addysg gynhwysol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 02 Gorffennaf 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person