MANYLION
- Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + TLR and ALN
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Athro/Athrawes Arbenigol FTE 0.8 - CMMI - Mewnol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + TLR and ALN
Athro/Athrawes Arbenigol FTE 0.8 - CMMI - MewnolDisgrifiad swydd
26 awr yr wythnos
Athro/Athrawes Arbenigol Amhariad Meddygol a Motor Cymhleth (CMMI) - 4 diwrnod.
Rydym yn awyddus i benodi athro/athrawes llawn cymhelliant a brwdfrydig sydd ag angerdd gwirioneddol am addysg plant ag anghenion amhariad motor a meddygol cymhleth, ac sy'n ymrwymedig i hyn, ac sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymgeisydd sydd â phrofiad o weithio gyda phlant ag anableddau corfforol ac anghenion dysgu ychwanegol.
Prif ddiben y rôl yw cyfrannu at gynhwysiant addysgol plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, nam echddygol ac anghenion meddygol, yn y blynyddoedd cynnar ac ar draws y cyfnodau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn galluogi'r profiad dysgu drwy ddefnyddio a chyflwyno hyfforddiant, cyngor a chymorth i staff ysgolion, i'w galluogi i reoli'r heriau penodol sy'n codi o anghenion dysgu ychwanegol disgyblion a/neu anableddau corfforol.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Garner. rachel.garner@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 07812471792.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 18 Mehefin 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 25 Mehefin 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person