MANYLION
  • Lleoliad: Nantgarw Campus,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £33,009.00 - £35,244.00
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Marchnata

Coleg Y Cymoedd

Cyflog: £33,009.00 - £35,244.00

Swyddog Marchnata
Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:

Mae gennym swydd gyffrous i unigolyn talentog, aml-sgiliau mewn marchnata, i ymuno â'n tîm Marchnata sy'n ehangu yng Ngholeg y Cymoedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r gweithgaredd Marchnata. Gan weithio gydag aelodau'r tîm Marchnata (yr Arweinyddion Brand a Dylunio, Cymdeithasol a Chysylltiadau Cyhoeddus a Gwe a Digidol), asiantaethau allanol a staff mewnol, byddwch yn cynorthwyo i gyflawni gwaith marchnata sy'n cynnwys:- Hysbysebu, Cysylltiadau Cyhoeddus, Rheoli Gwefannau, Cyfryngau Cymdeithasol, Digwyddiadau, Brandio, Hawlfraint, Cyhoeddiadau a mwy.

Gwybodaeth Bellach:

Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.

Canllawiau Cais:

Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

Cyswllt:

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk