MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro - Ysgol VCP Cilgerran

Cyngor Sir Benfro
Mae Corff Llywodraethol Ysgol GWR Cilgerran yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chymwys i ymgymryd â'r swydd hon. Rydym yn chwilio am addysgwr talentog ac angerddol sydd yn barod i gyfrannu'n llawn at godi safonau academaidd, cefnogi lles a chyfrannu at fywyd allgyrsiol yr ysgol.

Dyma gyfle i unigolyn sy'n chwilio am her i fod yn rhan o dîm uchelgeisiol sydd â gweledigaeth i ddarparu addysg o'r radd flaenaf i ddisgyblion yr ysgol ac i ddatblygu addysg trwy'r iaith Gymraeg. Cynigir contract sefydlog tan Awst 31ain, 2026, i ddechrau gyda'r cyfle i ymestyn a disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau gweithio o fis Medi 2025 ymlaen.

Nod yr ysgol yw sicrhau ein bod yn cynnig profiadau addysgol arloesol a bydd ffocws clir ar alluogi'r disgyblion i gymryd rhan a datblygu mewn amgylchedd ysgogol, hapus a diogel.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, gofynnwn yn garedig i chi lenwi ffurflen gais Awdurdod Sir Benfro.

Dylech ystyried disgrifiad y swydd yn ofalus wrth gwblhau'r cais gan amlinellu eich cymwysterau, profiad a syniadau ar gyfer y rôl.

Os hoffech drafod cynnwys y swydd hon ymhellach, yna cysylltwch â'r Pennaeth Mrs Rayanne Rogers drwy e-bost ar head.cilgerran@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01239 614226.

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd yw dydd Iau, Mehefin 26ain 2025. Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar y 7fed ac 8fed o Orffennaf.

Bydd gofyn i chi fod yn ymrwymedig i ddiogelu plant a chynnal safonau proffesiynol uchel.

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, brwdfrydig gyda Statws Athro Cymwysedig ac aelodaeth o Gyngor y Gweithlu Addysg i ymuno â'n hysgol.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.