MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £24,988 - £25,782
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwylydd Glanhau - Ysgol Gatholig Sant Ioan Llwyd
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: £24,988 - £25,782
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 1834
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol - Yn Ystod y Tymor yn Unig
Lleoliad:
Llanelli
Gradd:
Gradd C +4%
Cyflog:
£24,988 - £25,782
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£12.95 - £13.36
Oriau Contract:
14
Dewch i ymuno â'n tîm
Mae'r Gwasanaeth Glanhau yn darparu gwasanaeth hanfodol ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae'r tîm yn gyfrifol am gynnal safonau uchel o lendid a hylendid ledled yr ysgol er mwyn sicrhau y gall disgyblion ddysgu mewn amgylchedd glân a diogel.
Os ydych chi'n unigolyn ymroddedig sy'n rhoi sylw gofalus iawn i fanylion, sy'n ymfalchïo mewn cynnal amgylchedd glân a threfnus ac sy'n gallu gweithio ar eich pen eich hun neu fel rhan o dîm, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Ein horiau gwaith yw dydd Llun tan ddydd Gwener, rhwng 15:00 a 17:00, yn ystod y tymor yn unig (38 wythnos y flwyddyn), sy'n ddelfrydol i gyd-fynd ag ymrwymiadau teuluol a rolau eraill rydym yn eu cynnig. Rydym yn cynnig cynllun cyflog 'blynyddol' fel bod ein staff sy'n gweithio yn ystod y tymor yn unig yn derbyn cyflog dros 52 wythnos.
Mae angen Goruchwylydd Glanhau dibynadwy a phrofiadol ar ein gwasanaeth i gynorthwyo'r Rheolwr Glanhau Ardal. Bydd eisoes gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad o weithio mewn rôl sy'n ymwneud â glanhau, a bydd yn gallu rhoi sylw craff i fanylion, gweithio a rheoli tîm o bobl, ac yn ymfalchïo mewn sicrhau bod pob ardal yn lân ac yn daclus.
Fel Goruchwylydd Glanhau, bydd eich dyletswyddau'n cynnwys hyfforddi, goruchwylio a chydlynu'r staff glanhau i sicrhau bod yr holl dasgau glanhau yn cael eu cwblhau'n ddiogel ac yn effeithlon a'u bod o safon uchel. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gynnal a chadw'r offer, ailgyflenwi cynnyrch glanhau a thrin unrhyw adborth gan gwsmeriaid mewn modd proffesiynol ac effeithiol.
Bydd hefyd angen i chi:
- Meddu ar agwedd gadarnhaol a bod yn barod i ddysgu sgiliau newydd.
- Bod yn hyblyg ac yn barod i gynorthwyo gyda gofynion glanhau eraill.
I gael sgwrs anffurfiol am ein swydd wag, cysylltwch â'r gwasanaeth glanhau drwy ffonio 07920286909. Os ydych chi'n unigolyn cryf eich cymhelliant gyda brwdfrydedd dros lendid a threfn, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Disgrifiad Swydd:
Cleaning Supervisor - Schools.pdf - 206KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 24/06/2025, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.