MANYLION
  • Lleoliad: Barry, Vale of Glamorgan, CF62 8YU
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,491 - £42,333
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro Ail yn yr Adran Fathemateg

Athro Ail yn yr Adran Fathemateg

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Hysbyseb – Ail yn yr Adran Fathemateg
Mai 2022


Swydd: AIl yn yr Adran Fathemateg

Pwynt/ Graddfa Cyflog: MPS1 - UPS3
CAD 2C (£4,937)

Cytundeb: Parhaol

Oriau: Llawn amser

Hysbyseb: 13eg o Fai 2022

Dyddiad Cau: 20fed o Fai 2022 (9:00yb)

Swydd i ddechrau: 1af o Fedi 2022

Mae'r Llywodraethwyr am benodi unigolyn cymwys a thalentog i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.

Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.

Edrychwn am athro ac arweinydd rhagorol, sydd yn dangos angerdd tuag at y pwnc a chyrhaeddiad ein disgyblion.

Arwyddair yr ysgol yw ‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’. Ein bwriad yw i adeiladu yn bellach ar lwyddiannau yr ysgol hyd yma ac i sicrhau fod pawb sy’n dysgu ac yn gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn derbyn y cyfleoedd gorau i gyrraedd pen eu mynydd personol.

Yr Adran Fathemateg

Rydym yn adran lwyddiannus sy’n ymfalchïo yn ein canlyniadau TGAU a Safon Uwch. Mae gennym ddisgwyliadau uchel o’r disgyblion ac yn herio pob unigolyn i lwyddo yn y pwnc. Cynigir Mathemateg a Mathemateg Bellach yn y chweched dosbarth. Mae’r ddau bwnc yn hynod boblogaidd fel opsiwn ac yn denu niferoedd uchel i’r cyrsiau Safon Uwch. Rydym wedi ymestyn ein darpariaeth yn ddiweddar i gynnig Peirianneg ar y cyd â’r adran Wyddoniaeth.
Mae wyth athro yn yr adran â phawb yn gyfeillgar a chefnogol iawn o’i gilydd. Rydym yn adran brofiadol, ymroddgar ac ymrwymedig. Mae’r gwersi yn cael eu cynllunio i annog chwilfrydedd a diddordeb yn y pwnc, gyda bwrdd gwyn rhyngweithiol ym mhob ystafell. Mae pob aelod o’r adran yn rhannu eu hadnoddau dysgu er mwyn datblygu arbenigedd pynciol, cynnal safonau uchel yr adran a sicrhau’r profiadau dysgu gorau i’r disgyblion. Mae hyn yn gyfle cyffrous i ymuno ag adran uchelgeisiol sydd eisiau cynnig pob cyfle i’r disgyblion wneud o’i gorau.

Os hoffech fwy o fanylion neu sgwrs bellach ynglyn â’r cyfle euraidd yma, cysylltwch â Emily Denham yn y man cyntaf drwy ffonio 01446 450280 neu ebost ed@bromorgannwg.org.uk

Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac mae disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.