MANYLION
  • Lleoliad: Brynmenyn Primary,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £18,335-£18,932 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Brynmenyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £18,335-£18,932 y flwyddyn

Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Brynmenyn
Disgrifiad swydd
30 awr yr wythnos

Yn ystod tymor yr ysgol

Dros dro - 1 flwyddyn

I ddechrau ym mis Medi 2025

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Brynmenyn yn dymuno penodi swyddog cymorth dysgu brwdfrydig, gofalgar a chydwybodol i weithio mewn tîm addysgu llawn cymhelliant a chyfeillgar.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth hanfodol i ddisgyblion ac yn gallu dangos hyn ar draws y cyfnod cynradd. Dylai hefyd fod yn:

- Gallu gweithio mewn partneriaeth agos â staff addysgu a staff cymorth eraill.

- Meddu ar wybodaeth dda am arfer cynradd er mwyn cyfrannu at gynllunio a gwerthuso gweithgareddau dysgu.

- Dealltwriaeth dda o anghenion dysgu ychwanegol a hyrwyddo cynhwysiant.

- Profiad o ddarparu gwaith ymyrraeth i ddisgyblion.

- Bod yn hyblyg iawn a gallu gweithio ar eu menter eu hunain.

- Dangos sgiliau cyfathrebu a threfnu gwych.

- Gweithio ochr yn ochr â staff i hyrwyddo un o feysydd y cwricwlwm.

- Ymrwymedig i'w datblygiad proffesiynol eu hunain a gwella'r ysgol.

- Gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol at fywyd ehangach yr ysgol.

- Yn barod i ymgymryd â 30 munud o ddyletswydd amser cinio y dydd.

Byddwch wedi cymhwyso i o leiaf NVQ Lefel 3 neu gyfwerth ac yn meddu ar brofiad da o weithio gyda phlant mewn amgylchedd ysgol.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 25 Mehefin 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 30 Mehefin 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 14 Gorffennaf 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person