MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £28,318 - £29,935
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £28,318 - £29,935
Disgrifiad SwyddColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Anogwr Ymddygiad Cadarnhaol
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy (a theithio i safleoedd eraill)
Math o Gontract: Cyfnod penodol 12 mis
Cyflog: £28,318 - £29,935
Wyt ti'n frwd dros hyrwyddo dulliau ymddygiad cadarnhaol mewn amgylcheddau addysg? Oes gen ti gefndir amlwg mewn cynorthwyo ymddygiad? Wyt ti wedi ymrwymo i greu diwylliant o garedigrwydd at bobl ifanc? Os felly, hoffem glywed gennyt ti!
Mae'r swydd newydd hon yn chwarae rôl hanfodol mewn sicrhau fod Coleg Cambria yn parhau i fod yn le diogel, caredig a pharchus i'r holl ddysgwyr. Mi fyddi di'n weladwy ar hyd holl safleoedd y coleg ac yn hyrwyddo dulliau ymddygiad caredig a chadarnhaol ymysg dysgwyr. Dyma swydd amrywiol a fydd yn cynnwys: ymateb i adroddiadau o aflonyddwch ymysg dysgwyr, cynnal gweithdai i ddysgwyr ar gydraddoldeb a pharch, cyflwyno hyfforddiant staff ar reoli ymddygiad heriol, creu adnoddau ar gyfiawnder adferol a dulliau ymddygiad cadarnhaol a mentora dysgwyr trwy'r broses ddisgyblu.
Gofynion Hanfodol
- Lefel 3 mewn maes pwnc perthnasol e.e. cymdeithaseg, seicoleg, iechyd a gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid neu faes perthnasol arall
- Lefel 2 neu uwch mewn Llythrennedd a Rhifedd
- Profiad o weithio gyda phobl sydd â heriau ymddygiadol
- Deall a phrofi dulliau cadarnhaol i ymddygiad ac arferion sy'n seiliedig ar drawma
- Dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a sut i'w gymhwyso wrth weithio gyda phobl
- Deall y problemau sy'n wynebu pobl ifanc heddiw
- Gallu gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, cynnig cymorth cadarnhaol i bobl ifanc, a hyrwyddo diwylliant o garedigrwydd
Os hoffech drafod y swydd ymhellach cysylltwch ag alice.churm@cambria.ac.uk
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch chi'n gwneud cais amdani ac os ydych chi'n llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig