MANYLION
  • Lleoliad: Porthcawl Primary,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro - Ysgol Gynradd Porthcawl

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Athro - Ysgol Gynradd Porthcawl
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Mae Ysgol Gynradd Porthcawl yn nhref Porthcawl yn awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae 176 o ddisgyblion ar y gofrestr, sydd rhwng tair ac un ar ddeg oed. Mae gan yr ysgol saith dosbarth, ac mae tri ohonynt yn oedran cymysg, ac ar hyn o bryd mae'n cyflogi saith athro amser llawn. Mae'r adroddiad Estyn diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023, ar gael ar wefan yr ysgol.

Rydym yn ceisio penodi athro/athrawes arloesol, angerddol ac ysbrydoledig i weithio yn ein dosbarth blwyddyn 5 a 6 cymysg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn datblygu perthnasoedd effeithiol iawn â phob aelod o'r gymuned ysgol a bydd yn dangos ymrwymiad diwyro i ddarparu'r cyfleoedd dysgu gorau posibl i bawb.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth a byddant yn angerddol, yn uchelgeisiol, yn hunanfyfyriol ac yn frwdfrydig i gyfrannu at ein cymuned ysgol hapus, lwyddiannus a chynhwysol. Bydd yn darparu profiadau dysgu ysbrydoledig i blant sy'n eu galluogi i ddatblygu fel dysgwyr annibynnol, chwilfrydig, myfyriol, cydweithredol a gwydn.

Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ar y rhestr fer gyflwyno gwers naill ai yn eu lleoliad eu hunain neu yn Ysgol Gynradd Porthcawl yn yr wythnos sy'n dechrau dydd Llun 23 Mehefin. Bydd hyn yn cael ei drefnu gyda'r Pennaeth ar ôl llunio'r rhestr fer.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 13 Mehefin 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 17 Mehefin 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 23 Mehefin 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person