MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Archdeacon John Lewis Church in Wales Primary School,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro - Cyfnod Mamolaeth - Ysgol Gynradd yr Archddiacon John Lewis
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Athro - Cyfnod Mamolaeth - Ysgol Gynradd yr Archddiacon John LewisDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Dros dro Cyfnod Mamolaeth o fis Medi 2025
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Archddiacon John Lewis yn ceisio penodi athro/athrawes frwdfrydig, gydwybodol a gofalgar. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd rhagorol, yn angerddol am addysg ac yn barod i gynnal gwerthoedd ac ethos Cristnogol yr ysgol. Byddwch yn rhan o dîm sy'n darparu, yn adolygu ac yn mireinio ein cwricwlwm ysgol yn ogystal â chael y cyfle i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol.
Mae'r gallu i sgwrsio â chwsmeriaid ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn hawdd drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 18 Mehefin 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 19 Mehefin 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 26 Mehefin 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person