MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,608 - £49,934
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £32,608 - £49,934
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr UnigolynColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...Teitl y Swydd: Darlithydd Gofal Anifeiliaid (Dysgu Sylfaen)
Lleoliad: Llaneurgain
Math o Gontract: Parhaol: Rhan Amser (0.6 CALl, 22.2 awr yr wythnos)
Cyflog: £32,304 - £49,934 (Pro Rata) (mae hwn yn gyfnod llawn amser, bydd y cyflog yn pro rata yn dibynnu ar batrwm gwaith) Mae graddfa dâl uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i Raddfa Dâl Uwch.
Mae Coleg Cambria yn chwilio am Ddarlithydd Gofal Anifeiliaid i ymuno â'r tîm Dysgu Sylfaen yn Llaneurgain.
Fel Darlithydd Gofal Anifeiliaid byddwch chi'n gyfrifol am gyflwyno cyrsiau o lefel Mynediad i Lefel 1 y byddwch yn arwain a chefnogi dysgwyr gydag agwedd gadarnhaol a phroffesiynol. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn sy'n gallu dangos angerdd at y pwnc ac sy'n gallu cadw'n ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn y maes pwnc.
Gofynion Hanfodol
- Cymhwyster i lefel 4 o leiaf mewn pwnc sy'n berthnasol yn broffesiynol
- Cymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf (e.e. Tystysgrif Addysg/TAR) neu yn gweithio tuag at gymhwyster addysgu Lefel 5.
- Profiad blaenorol o ddarparu Gofal Anifeiliaid mewn amgylchedd AB
- Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i gefnogi'r anghenion hyn mewn amgylchedd dysgu
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig