MANYLION
  • Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa Gyflog 5\/P02 (points 25 - 41) £29,004 - £47,174 y flwyddynCyflog yn dibynnu ar gymwysterau:
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Hyfforddwr Adeiladwaith

Coleg Penybont

Cyflog: Graddfa Gyflog 5\/P02 (points 25 - 41) £29,004 - £47,174 y flwyddynCyflog yn dibynnu ar gymwysterau:

Hyfforddwr Adeiladwaith
Llawn Amser a Pharhaol
Graddfa Gyflog 5/P02 (points 25 - 41) £29,004 - £47,174 y flwyddyn
Cyflog yn dibynnu ar gymwysterau:
Dim TAQA: Scale 5 (£29,004 to £31,845 y flwyddyn)
TAQA dim TAR: Scale 6 i SO1 (£32,888 - £38,945 y flwyddyn)
TAQA a TAR: SO2 i PO2 (£40,125 - £47,174 y flwyddyn)

Ydych chi'n angerddol am waith brics neu waith tir ac yn awyddus i ysbrydoli dysgwyr? Ymunwch â'n tîm deinamig yng Ngholeg Penybont!

Diben y swydd: Cynllunio, datblygu, cyflwyno ac asesu cymwysterau priodol, h.y. Gwaith Brics a Gwaith Tir, i fyny at Lefel 3.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â gwybodaeth am gymwysterau Adeiladwaith - Gwaith Brics neu Waith Tir perthnasol ac am weithio mewn amgylchedd Gwaith Brics diwydiannol. Byddwch wedi'ch addysgu i o leiaf NVQ Lefel 3 neu safon gyfwerth mewn Gwaith Brics neu Waith Tir, ynghyd â TAQA Lefel 3 (neu gyfwerth), neu'n barod i weithio tuag at hyn. Bydd gennych y gallu i gysylltu ag ystod amrywiol o ddysgwyr ac ysbrydoli unigolion o bob cefndir i gyflawni eu potensial llawn.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.