MANYLION
  • Lleoliad: Barry, Vale of Glamorgan, CF62 8YU
  • Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 01 September, 2022
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2023
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Cymorth Dosbarth

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Swydd: Cynorthwyydd Cymorth Dosbarth

Pwynt/ Graddfa Cyflog: Gradd 5 SCP 8-12 (£20,493-£22,183 pro rata)

Cytundeb: 1 Blwyddyn

Oriau: Llawn Amser (32.5awr yr wythnos / 39wythnos y flwyddyn)

Hysbyseb: 12fed o Fai 2022

Dyddiad Cau: 27ain o Fai 2022

Swydd i ddechrau: 1af o Fedi 2022

Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.

Os ydych yn chwilio am gyfle i weithio mewn rôl lle mae pob diwrnod yn hollol wahanol gall hyn fod y swydd i chi! Mae gennym gyfle i unigolyn talentog, ymroddedig a brwdfrydig i ymuno ag Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn gweithio fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu.
Yn y rôl yma byddwch yn gweithio i gefnogi myfyrwyr sydd ag Awtistiaeth ar draws holl gwricwlwm yr ysgol ac hefyd yn ein canolfan newydd fydd yn agor ym mis Medi 2022.
Fe fydd y ganolfan yn cefnogi disgyblion o flynyddoedd 7-13 sydd ag awtistiaeth, mewn canolfan arbennigol ar safle’r Ysgol. Fe fydd y ganolfan yn cynnig hafan dawel i’r disgyblion yma i weithio a derbyn cefnogaeth.
Bydd natur y gefnogaeth yn gallu amrywio o gefnogi grwpiau bach i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd i gefnogi myfyrwyr gydag anghenion cymhleth sydd angen cefnogaeth un i un. Mae’r gallu i ddangos empathi tuag at fyfyrwyr sydd ag anawsterau cyfathrebu a sgiliau cymdeithasol yn hanfodol.
Yn ddelfrydol bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â’r wybodaeth a’r ymwybyddiaeth o amrywiaeth o ddulliau i gefnogi dysgwyr. Fodd bynnag, darperir hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer datblygu’r sgiliau yma.
Bydd gan y person agwedd bositif a phenderfynol. Byddant yn hyblyg wrth weithio gyda gwahanol fyfyrwyr a staff, yn barod am sialensiau newydd ac yn dangos yr ysfa i ddatblygu’n bersonol.
Os hoffech fwy o fanylion neu sgwrs bellach ynglyn â’r cyfle euraidd yma, cysylltwch â Emily Denham yn y man cyntaf drwy ffonio 01446 450280 neu ebost ed@bromorgannwg.org.uk

Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac mae disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.