MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ogmore Vale Primary,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro - ysgol gynradd cwm Ogmore (Dros Dro)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Athro - ysgol gynradd cwm Ogmore (Dros Dro)Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Ar gyfer mis Medi 2025
Dros dro hyd at 31 Awst 2026
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Cwm Ogwr yn dymuno penodi athro/athrawes gynradd llawn cymhelliant a chreadigol sydd â phrofiad o addysgu ar draws y cyfnod cynradd. Bydd y swydd hon yn rhan uchaf Cyfnod allweddol 2 i ddechrau.
Bydd angen i ymgeiswyr fod yn angerddol am arfer cynradd o ansawdd uchel, bod yn ymarferwyr gwych yn yr ystafell ddosbarth a gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm. Rydym yn chwilio am rywun â diddordeb mewn cyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol ac sy'n gallu cael effaith y tu hwnt i'w ystafell ddosbarth. Mae angen i ymgeiswyr fod â disgwyliadau uchel ar gyfer yr holl ddisgyblion yn academaidd ac o ran eu hymddygiad.
Cysylltwch â'r ysgol i gael rhagor o fanylion am y swydd.
Mae'r gallu i gynnal sgwrs sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 12 Mehefin 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Mehefin 2025
Sylwadau Gwers: WB 16 Mehefin 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 23 Mehefin 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person