MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Gradd 6  £27,269 x 71.22%
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Addysgu (lefel 3) - YGG Abercynon

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Gradd 6  £27,269 x 71.22%

Cynorthwy-ydd Addysgu (lefel 3) - YGG Abercynon

Disgrifiad Swydd
Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon
Greenfield Terrace

Abercynon

Mountain Ash

CF45 4TH

Cynorthwy-ydd Addysgu (lefel 3)

Oriau: 30 awr yr wythnos – yn ystod tymhorau’r ysgol yn unig

Cyflog: Gradd 6 £27,269 x 71.22%

Dyddiad dechrau: Medi 2025

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon am benodi person cyfeillgar, cydwybodol a brwdfrydig i weithio gyda disgyblion mewn dosbarth Dysgu Sylfaen. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol da ac yn medru sefydlu perthynas dda wrth weithio gyda phlant, athrawon a rhieni. Mae’r gallu i gyfathrebu yn hyderus yn y Gymraeg yn hanfodol.

Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion gan ddefnyddio’r ddolen: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM

Os ydych yn cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, gwnewch gais am y swydd drwy eich cyfrif hunanwasanaeth cyflogai ac nid drwy'r ddolen uchod. Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich cyfrif Hunanwasanaeth Gweithiwr, cysylltwch â thîm iTrent ar 01443 680760 neu itrentadmin@rctcbc.gov.uk

Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Mrs Michelle Barry am fwy wybodaeth ac i ymweld â’r ysgol (01443 740239)

Dyddiad cau'r swydd yma yw dydd Iau 5ed o Fehefin (hanner nos).

Rhestr Fer: Dydd Llun 9fed o Fehefin

Cyfweliadau: Dydd Gwener, 13eg o Fehefin

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.