MANYLION
  • Lleoliad: Blackwood, All Wales, NP12 1BA
  • Testun: Cynghorydd Gyrfa
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Mehefin , 2025 11:59 y.p
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rydym yn recriwtio Cynghorwyr Gyrfa cymwysedig a than hyfforddiant

Gyrfa Cymru
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen Cymru’n Gweithio.

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud. Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.

Anogir pobl o gefndiroedd amrywiol i wneud cais am swyddi gwag gyda Gyrfa Cymru.

Cynghoryddion Gyrfa/Dan Hyfforddiant - cyflog cystadleuol - telerau ac amodau rhagorol - swyddi gwag llawn amser (37 awr) yn Wrecsam, Llanelli a’r De Ddwyrain (ardaloedd Caerffili, Casnewydd a Thorfaen) a swydd rhan amser, 3 neu 4 diwrnod yr wythnos, yn Sir y Fflint (Y Fferi Isaf/Queensferry).

Mae’r gallu i siarad a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swyddi yn Sir y Fflint, Llanelli ac un o’r dwy swyddi yn y De Ddwyrain.

• Allwch chi ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc ac oedolion i gymryd camau cadarnhaol tuag at gyflawni eu huchelgeisiau?

• Ydych chi eisiau cyfrannu at ddatblygu sgiliau ac economi Cymru yn y dyfodol?

• Ydych chi eisiau gweithio i sefydliad cenedlaethol proffesiynol, modern ac arloesol a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl?

Mae Gyrfa Cymru yn wasanaeth cyfarwyddyd i bobl o bob oed sy'n cefnogi pobl ifanc mewn addysg a chwsmeriaid yn y farchnad lafur. Ni yw'r unig sefydliad cenedlaethol yng Nghymru sy'n cynnig gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd diduedd am yrfaoedd. Mae gan ein cynghorwyr angerdd tuag at helpu pobl i gyflawni eu potensial.

Rydym yn chwilio am Gynghoryddion Gyrfa cymwysedig neu Hyfforddeion sy'n gallu gweithio gydag ystod eang o bobl ifanc ac oedolion yn y farchnad lafur.

Cyflog Cynghorydd Gyrfa yw £31,096 - £35,981 (pro-rata i rhan amser), cyflog i gychwyn ar £31,096 (neu pro rata) a chyflog Cynghorydd Gyrfa dan Hyfforddiant yw £29,873 (pro rata i rhan amser).

Mae’r swyddi yn Wrecsam, Llanelli a Sir y Fflint wedi’u lleoli o fewn ein Tîm Cymru’n Gweithio:

Fel rhan o'r rhaglen Cymru'n Gweithio, mae ein Cynghorwyr Gyrfa yn gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion i gynnig cymorth asesu a chyfarwyddyd i'w helpu i ymuno neu ailymuno â'r farchnad lafur. Maent yn gweithio gydag ystod o grwpiau cwsmeriaid, gan gynnwys y rhai sy'n ddi-waith yn y tymor hir a'r tymor byr, y rhai sy'n economaidd anweithgar, pobl â rhwystrau iechyd ac anabledd a'r rhai sy'n ceisio newid eu gyrfaoedd. Maent hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol gan gynnwys darparwyr hyfforddiant, canolfannau gwaith, carchardai, timau troseddau ieuenctid, cyflogwyr a sefydliadau proffesiynol eraill i gefnogi eu cwsmeriaid i gael addysg, hyfforddiant a gwaith cynaliadwy.

Mae'r cynghorwyr yn defnyddio ystod o offer a sgiliau i gefnogi'r gwaith a wnânt ac mae hyn yn amrywio o gefnogaeth un i un, cyflwyno sesiynau rhyngweithiol i grwpiau yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd i gyflwyno gwybodaeth gan ddefnyddio ystod o dechnolegau digidol.

Os hoffech gael yr her o weithio gyda phobl ifanc ac oedolion o bob gallu a chefndir yn y farchnad lafur, os ydych yn gallu eu cymell a'u hysbrydoli i gyflawni eu nodau, ac yn gallu sefydlu perthynas effeithiol gydag amrywiaeth o sefydliadau partner, yna hoffem glywed gennych.
Byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â chefndir mewn gweithio gyda:

• addysg a hyfforddiant;
• sectorau iechyd, gofal cymdeithasol neu gymorth anabledd;
• oedolion sy'n dychwelyd i'r farchnad lafur ac;
• oedolion neu bobl ifanc o grwpiau ethnig lleiafrifol amrywiol, ceiswyr lloches neu ffoaduriaid.
Mae’r swyddi yn y De Ddwyrain wedi’u lleoli o fewn ein Tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc (Addysg):

Mae ein Cynghorwyr Gyrfa sy'n gweithio ym myd addysg yn allweddol o ran sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu paratoi ar gyfer cyfnodau pontio allweddol yn eu bywydau a'u bod yn ymwybodol o'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn marchnad lafur sy'n newid yn barhaus. Maent yn gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbennig, y rhai sy'n cael eu haddysgu heblaw mewn ysgolion a cholegau AB.

Mae cynghorwyr gyrfa yn defnyddio ystod o offer a sgiliau i gefnogi'r gwaith y maent yn ei wneud gyda phobl ifanc. Mae hyn yn amrywio o gefnogaeth un i un, cyflwyno sesiynau grŵp rhyngweithiol a chyflwyno gwybodaeth gan ddefnyddio ystod o dechnoleg ddigidol.

Os hoffech gael yr her o weithio gyda phobl ifanc o bob gallu a chefndir, os ydych yn gallu cymell ac ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni eu nodau, os gallwch greu perthynas effeithiol gydag athrawon, rhieni a darparwyr dysgu eraill, yna hoffem glywed gennych.

Gwybodaeth Cyffredinol:

Mae'n ofynnol i chi deithio yng Nghymru ac yn achlysurol yn y DU er mwyn cyflawni eich dyletswyddau a/neu fynychu digwyddiadau dysgu a datblygu. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod gennych drefniadau trafnidiaeth digonol i'ch galluogi i gyflawni eich dyletswyddau a/neu fynychu digwyddiadau dysgu a datblygu.

Rhaid i Gynghorwyr Gyrfa cymwysedig feddu ar gymhwyster Diploma mewn Cyfarwyddyd a Datblygu Gyrfa Lefel 6 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCC neu cymhwyser cyfatebol) a bod yn gymwys i ymuno â Chofrestr Ymarferwyr y Sefydliad Datblygu Gyrfa.

Os nad ydych yn meddu ar y cymhwyster FfCC, fe wnawn ddarparu’r hyfforddiant a’r gefnogaeth angenrheidiol i’ch cynorthwyo i gael y cymhwyster gwerthfawr yma.

Dylai Cynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant fod wedi'u haddysgu i lefel gradd neu safon gyfatebol a byddant yn cwblhau Diploma Lefel 6 mewn Cyfarwyddyd a Datblygu Gyrfa. Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol ar lefel gradd, a fydd yn cael ei gwblhau yn y gweithle, ond bydd angen dysgu'n annibynnol yn amser y dysgwr ei hun.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael Datgeliad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd-ddisgrifiad llawn a ffurflen gais ar gael yn: Vacancies - Careers Wales (gov.wales)

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 06/06/2025. Bydd y broses ddethol ar ffurf asesiad mewn canolfan asesu a chyfweliad. Bwriedir cynnal y prosesau asesu yma yn ddigidol ar Teams ac fe’i cynhelir yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar y 23ain o Fehefin 2025. Cynhelir cyfweliadau o’r wythnos sy’n cychwyn ar y 7fed o Orffennaf 2025.

Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.

Sylwer na fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.

Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.


JOB REQUIREMENTS
Mae’r disgrifiad swydd llawn a ffurflen gais ar gael yn:
https://apply.careerswales.gov.wales/cy/jobs/5968726-cynghorwyr-gyrfa-cynghorwyr-gyrfa-dan-hyfforddiant-dyddiad-cau-06-06-2025