MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £51,965 - £56,899 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £51,965 - £56,899 / blwyddyn
Pennaeth Cynorthwyol Iechyd, Gofal, Gofal Plant, a ChwnselaApplication Deadline: 12 June 2025
Department: Arall
Employment Type: Parhaol
Location: I gael ei gadarnhau
Compensation: £51,965 - £56,899 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.
Fel Pennaeth Cynorthwyol Cwricwlwm, bydd deilydd y swydd yn chwarae rhan allweddol mewn gweithredu strategaethau, polisïau a gweithdrefnau'r Coleg ym meysydd Addysgu a Dysgu, y Cwricwlwm a Datblygu Cwricwlwm, Sicrhau ansawdd a Gwella Ansawdd a gwaith Masnachol. Gallai'r swydd olygu teithio helaeth ar draws Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, hyblygrwydd o ran oriau gwaith a chydweithio'n effeithiol ar draws grŵp PCYDDS, gan ganolbwyntio ar gynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm.
Mae rôl y Pennaeth Cynorthwyol Cwricwlwm yn cynnwys cyswllt a chydweithrediad â budd-ddeiliaid allweddol a chysylltiadau allanol. Mae'r coleg wedi datblygu partneriaethau helaeth sy'n ychwanegu gwerth, y bydd y rôl hon yn dylanwadu'n sylweddol arnynt.
Er mwyn cyflawni heriau'r dyfodol bydd deilydd y swydd yn cefnogi ymgyrch y Coleg i gynyddu incwm nad yw'n incwm craidd drwy gynnwys y Maes Cwricwlwm mewn ystod o weithgareddau cynhyrchu incwm. Yn ogystal, bydd hi'n ofynnol i ddeilydd y swydd ymwneud ag ystod o fesurau lleihau costau a'u sefydlu, a hynny heb effeithio ar ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer ei ddysgwyr.
Pwrpas
- Cefnogi'r Pennaeth Cwricwlwm i arwain ein darpariaeth Mynediad ac AU, gan sicrhau profiad dysgu llwyddiannus a phleserus i bob dysgwr;
- Cynorthwyo'r Pennaeth Cwricwlwm i gyflawni'r safonau uchaf posibl mewn addysgu a dysgu ar draws y maes;
- Gweithredu prosesau a gweithdrefnau a fydd yn cyflawni'r safonau uchaf o ganlyniadau dysgwyr ym maes Mynediad ac AU.
- Sicrhau bod prosesau sicrhau a gwella ansawdd yn cael eu gweithredu'n effeithiol;
- Cynorthwyo'r Pennaeth Cwricwlwm i gynllunio, rheoli a gwerthuso Cwricwlwm effeithlon, effeithiol ac sy'n talu'r ffordd sy'n diwallu anghenion dysgwyr ac sy'n darparu dilyniant i lefelau uwch o ddysgu, cyflogaeth neu hunangyflogaeth.
- Cydweithio'n effeithiol ar draws grŵp PCYDDS, gan ganolbwyntio'n benodol ar gynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm;
- Cyfrannu at fentrau i gynyddu incwm nad yw'n incwm craidd a lleihau costau heb effeithio ar ansawdd y ddarpariaeth.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
Cymwysterau
- Gradd/HND neu Gymhwyster Cyfwerth
- Cymhwyster addysgu
- Profiad perthnasol o reoli cwricwlwm gan gynnwys cyflwyno a gweithredu mentrau newydd
- Profiad o ddatblygu cwricwlwm
- Profiad o weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau allanol.
- Profiad o ddatblygu gweithgarwch cynhyrchu incwm mewn amgylchedd addysgol
- Cyfathrebwr ardderchog â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i arwain tîm sydd ar wasgar yn ddaearyddol
- Lefel uchel o gywirdeb personol a Cyfrinachedd
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr uwch
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Dealltwriaeth o ddatblygiadau mewn AB, AU, Dysgu Seiliedig Ar Waith a'r sector 14-19
- Arwain trwy esiampl, gan osod safonau uchel o ran proffesiynoldeb
- Dangos dull cadarnhaol, agored a chefnogol o reoli
- Gwerthfawrogi a meithrin creadigrwydd mewn eraill
- Annog ac ysgogi eraill i rannu perchnogaeth a chyfrifoldeb dros wasanaeth
- Herio a datrys perfformiad llai na boddhaol
- Datblygu perthnasoedd gwaith da
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Benefits
- You will receive 37 days holiday, plus bank holidays and five closure days which totals at 41 days holiday per year.
- Extremely generous pension scheme with employer contributions of 28.68%.
- Salary Sacrifice EV Car Scheme
- Award-winning professional learning and development programme.
- Cycle to work scheme
- Free on-site car parking
- Online and instore retail discounts