MANYLION
  • Lleoliad: Llangewydd Junior,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £14,802 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Ysgol Goedwig (Dros Dro) – Ysgol Gynradd Llangewydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £14,802 y flwyddyn

Arweinydd Ysgol Goedwig (Dros Dro) - Ysgol Gynradd Llangewydd
Disgrifiad swydd
25 yr wythnos

Dros dro hyd at 31 Awst 2026

Mae Ysgol Iau Llangewydd wedi'i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae'n rhan o glwstwr o ysgolion Bryntirion. Mae 350 o ddisgyblion ar y gofrestr sydd rhwng saith ac un ar ddeg oed. Mae gan yr ysgol 12 o ddosbarthiadau prif ffrwd a 2 ddosbarth ADY.

Rydym yn creu rhywbeth unigryw i'n disgyblion: rhaglen gadarn ar gyfer dysgu yn yr awyr agored gadarn, sy'n cael ei harwain gan y plentyn ac a gynhelir drwy gydol y flwyddyn yn ein tiroedd helaeth yn yr ysgolion. Mae'r Corff Llywodraethu yn ceisio penodi arweinydd angerddol, cymwysedig i hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored ar draws yr ysgol. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ysbrydoledig i sefydlu, datblygu ac arwain ein sesiynau ysgol goedwig a datblygu darpariaeth ysgol goedwig ym mhob tywydd.

Rydym yn chwilio am rywun a fydd yn creu cyfleoedd dysgu difyr sy'n galluogi disgyblion i ddatblygu creadigrwydd, gwydnwch, arweinyddiaeth, empathi a chariad at y byd o'u hamgylch. Rydym eisiau rhywun sy'n rhoi llesiant wrth wraidd eu hymarfer ac sy'n cydnabod anghenion cymdeithasol, emosiynol a chorfforol gwahanol y plant.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

- Arwain sesiynau Ysgol Goedwig dyddiol gyda grwpiau bach o ddysgwyr

- Creu profiadau dysgu cyffrous, diogel, a difyr yn yr awyr agored

- Cefnogi archwilio a chymryd risgiau drwy fyd natur dan arweiniad y plentyn

- Annog gwydnwch, chwilfrydedd, a hyder mewn plant

- Cydweithio ag athrawon a staff eraill i ymgorffori dysgu yn yr awyr agored ar draws y cwricwlwm

- Cynnal a chadw offer, adnoddau awyr agored ac ardaloedd coetir

- Hyrwyddo parch dwfn at yr amgylchedd drwy brofiad ymarferol

- Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm llwyddiannus.

- Gallu cefnogi gydag ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi.

Yn Ysgol Iau Llangewydd rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig, hapus a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn ymrwymedig i lesiant staff a byddwn yn darparu amgylchedd gwaith cefnogol i bawb.

Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ar y rhestr fer ymweld â'r ysgol drwy apwyntiad gyda'r Pennaeth.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Krista Green ar 01656 815530 neu anfonwch e-bost at

Head@llangewyddjs.bridgend.cymru

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 11 Mehefin 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Mehefin 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 23 Mehefin 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person