MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Mynydd Cynffig Primary,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes Dros Dro - Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig - Cyfnod Mamolaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Athro/Athrawes Dros Dro - Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig - Cyfnod MamolaethDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Dros dro tan 31 Awst 2026
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn dymuno penodi athro/athrawes llawn cymhelliant, ysbrydoledig a brwdfrydig sydd â phrofiad o ddysgu sylfaen i ymuno â'n tîm ymroddedig a phrofiadol.
Rydym yn darparu amgylchedd tawel a meithringar sy'n hyrwyddo datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol disgyblion yn dda lle mae bron pob disgybl yn dangos agwedd gadarnhaol at ddysgu, yn ymddwyn yn dda ac yn teimlo'n ddiogel o fewn cymuned gynhwysol yr ysgol. Rydym yn chwilio am athrawon dosbarth sy'n gallu datblygu perthnasoedd gofalgar a chefnogol gyda phob aelod o'n cymuned ysgol feithringar a hapus.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n llawn cymhelliant ac sy'n gallu ysbrydoli ac ennyn brwdfrydedd y plant. Byddwch yn berson sydd â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu eithriadol ac sy'n gallu gosod a chynnal safonau uchel o addysgu, dysgu ac ymddygiad. Bydd angen i'r athro/athrawes a benodir ddangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth a phrofiad o arwain maes dysgu. Rhaid bod gennych wybodaeth gadarn am y Cwricwlwm i Gymru, profiad o addysgu ar draws y cyfnod sylfaen a gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Fel ysgol, gallwn gynnig ymrwymiad i gefnogi addysgu, disgyblion brwdfrydig sy'n ymddwyn yn dda iawn ac sy'n barod i ddysgu, cyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus gwych i ddatblygu addysgu a chymuned ysgol hapus a chefnogol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 04 Mehefin 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 10 Mehefin 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 19 Mehefin 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person