MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llangewydd Junior,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro - Ysgol Iau Llangewydd (Dros dro)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Athro - Ysgol Iau Llangewydd (Dros dro)Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Dros dro hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf
Mae'r Corff Llywodraethu yn ceisio penodi athro/athrawes brofiadol, sy'n arloesol, yn greadigol ac yn ymarferydd ysbrydoledig yn yr ystafell ddosbarth sy'n ymrwymedig i gynorthwyo llesiant a dysgu plant ac sydd â dyheadau a disgwyliadau uchel ar gyfer y disgyblion y maent yn gweithio gyda nhw.
Mae Ysgol Iau Llangewydd wedi'i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae'n rhan o glwstwr o ysgolion Bryntirion. Mae 351 o ddisgyblion ar y gofrestr sydd rhwng tair ac un ar ddeg oed. Mae gan yr ysgol 12 o ddosbarthiadau prif ffrwd (tri dosbarth mynediad) a 2 ddosbarth ADY.
Yn Ysgol Iau Llangewydd rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig, hapus a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn ymrwymedig i lesiant staff a byddwn yn darparu amgylchedd gwaith cefnogol i bawb ynghyd â buddion personol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Ymarferydd rhagorol a phrofiadol yn yr ystafell ddosbarth gyda dealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru.
Gallu darparu profiadau dysgu o ansawdd uchel sy'n cefnogi ac yn herio pob dysgwr.
Gallu cynllunio profiadau dysgu ystyrlon dan do ac yn yr awyr agored.
Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm llwyddiannus a rheoli staff cymorth.
Yn drefnus ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
Cysylltu a gweithio gyda rhieni, llywodraethwyr, a'r gymuned ehangach.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 11 Mehefin 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Mehefin 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 26 Mehefin 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person