MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Trelales Primary,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Trelales (Dros Dro)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Trelales (Dros Dro)Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Dros dro hyd at 31 Gorffennaf 2026
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Trelales yn dymuno penodi athro/athrawes llawn cymhelliant ac ysbrydoledig sy'n ymrwymedig i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymuned ysgol.
Rydym yn chwilio am athrawon dosbarth sy'n datblygu perthnasoedd effeithiol iawn â phob aelod o'r gymuned ysgol ac sy'n dangos ymrwymiad diwyro i ddarparu'r cyfleoedd dysgu gorau posibl i bawb.
Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth a bod yn angerddol, yn uchelgeisiol, yn hunanfyfyriol ac yn frwdfrydig i gyfrannu at ein cymuned ysgol hapus, lwyddiannus a chynhwysol. Byddant yn ymrwymedig i ymgysylltu â theuluoedd a chyfrannu at waith ymgysylltu helaeth â theuluoedd ein hysgol. Byddant yn darparu profiadau dysgu ysbrydoledig i blant sy'n eu galluogi i ddatblygu fel dysgwyr annibynnol, chwilfrydig, myfyriol, cydweithredol, a chydnerth.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael budd o gyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol o ansawdd ar bob cam o'u gyrfa. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â chymuned ysgol ffyniannus sydd â staff, tîm arwain a chorff llywodraethu cefnogol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 4 June 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 9 June 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 18 & 19 June 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person