MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 5 - £25,584 - £26,835
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 5 - £25,584 - £26,835
Mae Ysgol Bro Ingli yn swatio yn nhref glan môr hardd Trefdraeth, gan gynnig amgylchedd meithringar a chynhwysol lle mae disgyblion a staff yn ymfalchïo yn eu hysbryd cymunedol cryf a'u cysylltiadau lleol.Prif bwrpas Ysgol Bro Ingli yw creu awyrgylch hapus, diogel ac iach i ddysgwyr a staff. Ysgol sy'n canmol ac yn cefnogi disgyblion sy'n gwneud eu gorau ac yn dyfalbarhau i feddwl a mentro'n annibynnol. Ymdrechwn i bob plentyn allu 'Cyrraedd y copa' (arwyddair yr ysgol) a chyrraedd eu llawn botensial a bod yn unigolion hyderus, uchelgeisiol a chreadigol. Rydym yn ysgol sy'n dathlu diwylliant yr ardal leol a thraddodiadau Cymru er mwyn gallu parchu a gofalu am y byd i'r dyfodol.
Gan ddechrau o dymor yr Hydref 2025, mae Ysgol Bro Ingli am benodi Clerc Gweinyddol Ysgol ymroddedig a dibynadwy. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn frwd dros ymgymryd â phrosesau gweinyddol, ariannol, trefniadol o fewn yr ysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda staff yr ysgol, gan gymryd cyfrifoldeb am y rolau gweinyddol a amlinellir yn y disgrifiad swydd. Mae'r Llywodraethwyr yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol rhagorol i gyfoethogi gwaith proffesiynol ein staff addysgu a chefnogi ein dysgwyr yn ein hethos gofalgar a theuluol.
Gradd 5 - £25,584 am 8 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig yn seiliedig ar 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £4859.00 pro rata yn codi i 46.8 wythnos, £4965.14 pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.