MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 3 - £24,027 pro rata
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu - Lefel 1 - Ysgol Hafan Y Mor

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 3 - £24,027 pro rata

Ysgol Hafan y Môr
Rhif ffon/Tel. No. 01834 843248
admin.ysgolhafanymor@pembrokeshire.gov.uk


Gradd 3 - £24027 am 30 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig yn seiliedig ar 45.8wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £17,112.50 pro rata yn codi i 46.8 wythnos, £17,486.14 pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.


Nifer ar y gofrestr: 240


Yn eisiau cyn gynted â phosib

Ydych chi'n edrych am her newydd? A hoffech chi fod yn rhan o dîm egniol, cyfeillgar a gweithgar ag sy'n hollol ymrwymiedig i gefnogi lles, safonau a datblygiad disgyblion? Dewch i ymuno â'n tîm a gwneud gwahaniaeth i fywyd disgyblion! Fel ysgol, rydym wedi ymrwymo i gefnogi lles staff yn ogystal â chyfleoedd da ar gyfer datblygiad proffesiynol.

Rydym yn ceisio penodi Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu medrus ac ymrwymedig a fydd yn cefnogi dysgwyr o fewn dosbarth cyfrwng Cymraeg cynradd. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy'r Gymraeg yn hanfodol am y swydd hon.

Mae hon yn swydd yn barhaol am 30 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig.

Bydd angen i chi fod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC) ar gyfer y swydd.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.