MANYLION
  • Lleoliad: HAVERFORDWEST, Pembrokeshire, SA61 1SZ
  • Testun: Gweinyddwr Recriwtio
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £19,071 - £23,397
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 15 Mai, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Gweinyddwr Recriwtio

Gweinyddwr Recriwtio

Coleg Sir Benfro
Mae gennym gyfle cyffrous i Weinyddwr brwdfrydig ymuno â'r tim Adnoddau Dynol sy'n perfformio'n dda. Byddwch yn cefnogi'r Tîm gydag ystod eang o ddyletswyddau gweinyddol sy'n canolbwyntio ar ddenu a recriwtio staff ar draws holl feysydd y Coleg. Byddwch yn arwain y broses o sefydlu staff newydd ac yn cymryd cyfrifoldeb am ddratiio a gosod hysbysebion, cysylltu ag ymgeiswyr a rheolwyr drwy gydol y broses recriwtio, trefnu a chydlynu diwrnodau dethol, cynnal amrywiaeth o wiriadau cefndir ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus a chefnogi gyda’r broses gychwyn a sefydlu yn y Coleg.

Os ydych yn chwilio am rôl heriol a gwerth chweil gyda chyflogwr llwyddiannus a mawr; yn llawn cymhelliant, yn rhagweithiol, yn hyderus ac yn edrych am rôl lle nad oes dau ddiwrnod yr un peth, efallai mai dyma'r swydd i chi. Mae hwn yn gyfle gwych i wella eich sgiliau gweinyddol presennol neu ddatblygu sgiliau newydd o fewn rôl amrywiol gyflym. Nid oes angen profiad blaenorol o adnoddau dynol nac o recriwtio a dethol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi.

Manylion Cyflog: BS12-18 (BAR) 19 - 21 £19,071 - £21,560 (BAR) £21,821 - £23,397 y flwyddyn

Math o Gontract: Cyflogedig - Parhaol

Oriau Gwaith: Llawn amser (37 awr yr wythnos)

Hawl Gwyliau: 28 diwrnod pro rata (yn cynyddu i 32 diwrnod am 5 mlynedd a mwy o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl banc a diwrnodau cau'r Coleg y flwyddyn.

Cymwysterau: Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster lefel 3 o leiaf mewn pwnc perthnasol a phrofiad blaenorol o weithio mewn rôl weinyddol.

Byddwch yn gyfathrebwr rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd gennych sgiliau TG a gweinyddol rhagorol gan roi llawer o sylw i fanylder. Byddwch yn egnïol ac yn frwdfrydig ac yn mwynhau gweithio gyda phobl. Mae sgiliau gwasanaeth cwsmer gwych yn hanfodol. Byddwch yn gallu dangos agwedd drefnus a strwythuredig at waith a rhaid bod gennych y gallu i weithio tuag at a chwrdd â thargedau/terfynau amser gan weithio'n gyflym o fewn amgylchedd gwaith hynod o brysur.

Ymgymerir â’r rôl yn rhannol ar safle prif gampws Coleg Sir Benfro ond bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o gartref ar sail rota (bob yn ail wythnos neu wythnos y mis o bosib).

Gwybodaeth Diwrnod Dethol
• Bydd gofyn i chi wneud prawf sgiliau (a fydd yn asesu TG, llythrennedd a rhifedd, fel rhan o'r broses ddethol.
• Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb ar brif gampws y Coleg
• Mae ystod eang o gymorth ar gael i unrhyw ymgeisydd ar y rhestr fer sy'n rhoi gwybod i ni am angen cymorth penodol

Mae Coleg Sir Benfro yn croesawu ceisiadau gan: Ymgeiswyr sydd â sgiliau cyfathrebu llafar Cymraeg da / Ymgeiswyr ag anableddau / Milwyr Wrth Gefn y Lluoedd Arfog / Ymgeiswyr rhannu swydd.

Dyddiad Cau: Hanner nos, Nos Sul 15 Mai 2022

Rhagwelwn y cynhelir y cyfweliadau ddydd Iau 26 Mai 2022, fodd bynnag, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod am ddyddiad y cyfweliad o leiaf wythnos cyn cynnal y cyfweliadau.