MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,372 - £46,431 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,372 - £46,431 / blwyddyn
Darlithydd mewn Peirianneg FodurolApplication Deadline: 28 May 2025
Department: Modurol
Employment Type: Parhaol - Llawn Amser
Location: Campws Pibwrlwyd
Reporting To: Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Phennaeth Cwricwlwm
Compensation: £25,372 - £46,431 / blwyddyn
DescriptionYdych chi'n angerddol am ddyfodol peirianneg fodurol ac yn awyddus i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr? Mae Coleg Sir Gâr yn chwilio am Ddarlithydd ymroddedig a gwybodus mewn Peirianneg Fodurol i ymuno â'n tîm deinamig ar Gampws Pibwrlwyd.
Mae'r ddarpariaeth peirianneg fodurol wedi'i lleoli ar gampws Pibwrlwyd er efallai y bydd gofyn i ddarlithwyr weithio mewn lleoliadau oddi ar y safle o bryd i'w gilydd, e.e. ysgolion partner, safleoedd masnachol a digwyddiadau.Fel Darlithydd mewn Peirianneg Fodurol, byddwch yn cyflwyno gwersi diddorol ac ymarferol ar draws ystod o gymwysterau, o Lefel 1 i Lefel 3, gan gynnwys prentisiaethau. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu sgiliau a gwybodaeth dysgwyr mewn amgylchedd ymarferol, gan sicrhau eu bod wedi'u paratoi'n dda ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant modurol sy'n datblygu'n gyflym.
Mae Coleg Sir Gâr wedi ymrwymo i hyrwyddo cenhadaeth y coleg: Ysbrydoli Dysgwyr, Cyflawni Potensial, Cyflawni Rhagoriaeth ac yn gosod y dysgwr, ac addysgu a dysgu wrth galon ei ethos. Mae'n gyfadran sy'n cofleidio technolegau newydd i gefnogi dysgu ac yn hyrwyddo olrhain a monitro cyson i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial. Mae dilyniant hefyd yn nodwedd amlycaf ac anogir pob maes rhaglen i ddarparu llwybrau dilyniant clir o Lefel Mynediad 3, Lefel 1 hyd at Lefel 3/prentisiaethau neu gyflogaeth.
Mae'r swydd hon yn rhoi cyfle cyffrous i gyfrannu at waith y Maes Cwricwlwm ar ddatblygiadau i'r dyfodol.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cyfrannu at addysgu, asesu a chydlynu rhaglenni astudio sy'n arwain at Lefel Mynediad 3, Lefelau 1, 2 a 3 mewn Peirianneg Fodurol;
- Cyfrannu at addysgu a datblygu rhaglenni Rhan-amser, darpariaeth ysgolion a masnachol eraill, e.e. cyrsiau byr, darpariaeth ysgolion;
- Ymgymryd â chymhwyster aseswr neu wiriwr mewnol o fewn 3 blynedd i'r penodiad (os nad oes gennych gymwysterau);
- Ymgymryd â rôl fel Tiwtor Cwrs/Arweinydd Rhaglen Maes Dysgu (LAP);
- Ymgymryd â dyletswyddau asesu a dilysu;
- Cyfrannu at ddatblygu cyrsiau newydd a chreu diwylliant o arloesi a gweithgareddau masnachol;
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Lefel 3 neu gyfwerth mewn Peirianneg Fodurol
- Cymhwyster Academaidd Uwch/ Galwedigaethol perthnasol mewn Peirianneg Fodurol
- Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad
dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn) - TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
- Profiad diwydiannol perthnasol yn y Sector Peirianneg Cerbydau Modur
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Profiad addysgu perthnasol
- Dealltwriaeth o geir Hybrid a cheir Trydanol (gellir darparu hyfforddiant)
- Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Trwydded yrru gyfredol
- Parodrwydd i yrru bws mini'r coleg
- Parodrwydd i gyfrannu at ddatblygu gweithgareddau allgyrsiol
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein