MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,372 - £46,431 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,372 - £46,431 / blwyddyn
Darlithydd mewn Gofal AnifeiliaidApplication Deadline: 28 May 2025
Department: Gwyddor Anifeiliaid a Cheffylau
Employment Type: Parhaol - Llawn Amser
Location: Campws Pibwrlwyd
Reporting To: Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Phennaeth Cwricwlwm
Compensation: £25,372 - £46,431 / blwyddyn
DescriptionMae'r Gyfadran Creadigrwydd a Sgiliau am benodi darlithydd gwyddor anifeiliaid deinamig, blaengar sydd â gweledigaeth ac egni i weithio gyda'r tîm presennol i gyfeiriad y ddarpariaeth gwyddor anifeiliaid yng Ngholeg Ceredigion yn y dyfodol.
Mae'r swydd yn rhoi cyfle cyffrous a heriol i berson rhagweithiol ac arloesol sy'n barod i gyflwyno darpariaeth gwyddor anifeiliaid rhagorol i ddysgwyr o Lefel Mynediad i lefel Gradd.
Wrth gynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm, byddwch yn paratoi deunyddiau dysgu o safon broffesiynol uchel ac yn gweithio'n hyblyg. Bydd deiliad y swydd yn frwdfrydig, yn rhagweithiol ac yn uchelgeisiol.
Mae rhaglenni gwyddor anifeiliaid yn amrywio o gyrsiau Addysg Bellach ar Lefel Mynediad 3, Lefel 1 i Lefel 6. Mae dysgwyr yn elwa ar ystod eang o weithgarwch allgyrsiol a system cymorth tiwtorial sydd wedi'i hen sefydlu.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Ymgymryd â'r gwaith o ddysgu, asesu a chydlynu rhaglenni astudio ar ystod o gyrsiau Rheolaeth Anifeiliaid o Lefel 1 i 6;
- Cyfrannu at reoli'r maes pwnc hwn;
- Darparu cymorth, fel aelod o'r tîm, o ran gweinyddu a datblygu adnoddau o fewn yr Adran ym Mhibwrlwyd a chynorthwyo gyda datblygu deunyddiau addysgu a dysgu;
- Cynorthwyo gyda'r gwaith o ddarparu Rheolaeth Anifeiliaid/ceffylau trwy gysylltu â'r diwydiant a datblygu cyrsiau masnachol;
- Cyfrannu at ansawdd y ddarpariaeth trwy'r system dilysu mewnol;
- Paratoi deunyddiau addysgu a dysgu perthnasol ar gyfer pynciau penodedig;
- Paratoi deunyddiau adnodd a chyfleusterau i ategu'r gwaith addysgu penodedig;
- Cyfrannu at ofynion swyddogaethol tîm y cwrs;
- Ymgymryd â'r holl weithgarwch asesu ar gyfer pynciau penodedig;
- Sicrhau bod yr holl ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau hyfforddiant ymarferol yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch a gofynion deddfwriaethol eraill;
- Cysylltu â budd-ddeiliaid trydydd parti fel y'i nodwyd gan reolwyr y gyfadran, gan gynnwys cynghorau sgiliau sector, sefydliadau AU, cyrff diwydiannol, cyflogwyr ac ati;
- Ymgymryd â rôl y tiwtor personol ar gyfer grŵp o ddysgwyr;
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Gradd berthnasol neu gymhwyster addysg uwch/cymhwyster uwch cyfwerth
- Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
- TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
- Profiad ymarferol/diwydiannol perthnasol mewn gwyddorau anifeiliaid
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Profiad addysgu perthnasol
- Profiad busnes yn y diwydiannau tir
- Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Trwydded yrru gyfredol
- Parodrwydd i yrru bws mini'r coleg
- Parodrwydd i gyfrannu at ddatblygu gweithgareddau allgyrsiol
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein