MANYLION
  • Lleoliad: Carmarthen, Carmarthenshire, SA31 3HB
  • Testun: Pennaeth Gwasanaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £92,275 - £98,423
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Pennaeth Gwasanaeth: Plant a Theuluoedd

Pennaeth Gwasanaeth: Plant a Theuluoedd

Cyngor Sir Caerfyrddin
Â'R DECHRAU CYWIR MEWN BYWYD MAE UNRHYW BETH YN BOSIBL

Mae ein gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn seiliedig ar roi'r dechrau gorau posibl i'n plant a'n pobl ifanc. Gwyddom mai dyma'r cam hollbwysig cyntaf i leihau anghydraddoldebau drwy gydol gweddill bywydau pobl. Dyna pam y mae hon yn rôl mor bwysig yn ein sefydliad. Byddwch yn arwain y gwasanaethau sy'n cefnogi ein plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed, gan sicrhau bod darpariaeth o ansawdd uchel yn hyrwyddo eu diogelwch a'u llesiant ym mhob rhan o'n cymunedau. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'n Pennaeth Addysg a Chynhwysiant i greu dull strwythuredig a chydlynol, gyda strategaethau ymyrraeth gynnar yn ganolog i'r ffordd rydym yn gweithio.

Rydym yn chwilio am arweinydd medrus ar gyfer y Gwasanaethau Plant (a gweithiwr cymdeithasol cymwysedig), a all gael y gorau gan eraill a sicrhau bod cynllunio olyniaeth effeithiol yn sail i wasanaeth sefydlog sy'n canolbwyntio ar y dyfodol. Byddwch wedi ymrwymo i ymarfer gwaith cymdeithasol arloesol ac i reoli risg yn effeithiol er mwyn cadw teuluoedd gyda'i gilydd gan sicrhau bod nifer y plant sy'n derbyn gofal yn parhau'n isel. Mae hon yn rôl sy'n cynnig ymreolaeth a chwmpas go iawn i brofi'r hyn y gallwch ei wneud, a hynny mewn Sir sy'n cynnig ansawdd bywyd gwych ac ymdeimlad cryf o hunaniaeth a balchder lleol.

Ewch i www.carmarthenshire-HCF.co.uk i gael rhagor o wybodaeth neu cysylltwch â Steve Guest yn Solace in Business i gael trafodaeth gyfrinachol drwy ffonio 020 7976 3311.

Dyddiad Cau: Canol dydd, ddydd Mercher 1 Mehefin 2022

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac i werthfawrogi amrywiaeth.

Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.