MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Cydlynydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £37,627 - £42,165
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cydlynydd Masnachol – NEBOSH, Iechyd a Diogelwch, Lletygarwch ac Arlwyo (Diogelwch Bwyd)

Cydlynydd Masnachol – NEBOSH, Iechyd a Diogelwch, Lletygarwch ac Arlwyo (Diogelwch Bwyd)

Coleg Gwyr Abertawe
Mae gennym gyfle Cydlynydd Masnachol ar gyfer unigolyn brwdfrydig, dawnus ac uchel ei barch.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu arweinyddiaeth, cyfeiriad a chefnogaeth i dîm o staff yn NEBOSH, Iechyd a Diogelwch, Lletygarwch ac Arlwyo (Diogelwch Bwyd) gan gydlynu gweithgaredd i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel i ddysgwyr a chyflogwyr.

Byddwch yn arwain, ysgogi ac ysbrydoli tîm o Hyfforddwyr, Aseswyr a Dilyswyr Mewnol i yrru’r busnes yn ei flaen yn fasnachol. Yn ogystal, bydd gofyn i chi ymchwilio a nodi cyfleoedd busnes a chwricwlwm er mwyn hwyluso twf.

Bydd gennych gymhwysedd galwedigaethol a Diploma Lefel 6 NEBOSH.

Yn ddelfrydol bydd gennych Ddyfarniad Asesydd A1 a/neu Ddyfarniad Dilysu Mewnol V1, yn ogystal â chymhwyster addysgu megis TAR (neu barodrwydd i ennill y cymhwyster).

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (ar yr amod eich bod wedi cwblhau 6 mis o wasanaeth).