MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £50,320 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £50,320 / blwyddyn
Rheolwr Prosiect - Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng NghymruApplication Deadline: 22 May 2025
Department: Ysbrodoli Rhagoriaeth Sgiliau
Employment Type: Cyfnod Penodol - Llawn Amser
Location: Campws Graig
Reporting To: Cyfarwyddwr Prosiect
Compensation: £50,320 / blwyddyn
DescriptionSwydd cyflenwi mamolaeth
Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.
Mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a reolir gan Goleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion. Mae'r prosiect, a gefnogir gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, yn canolbwyntio ar alluogi mwy o gyfranogiad mewn Cystadlaethau Sgiliau trwy ehangu'r wybodaeth a'r arbenigedd ar draws y sector addysg a hyfforddiant.
Fel deilydd y contract, mae'r coleg wedi penodi tîm cyflwyno neilltuedig dan arweiniad Cyfarwyddwr Prosiect. Mae'r Cyfarwyddwr Prosiect yn unigolyn allweddol sy'n arwain tîm gwasgaredig yn ddaearyddol sy'n gyfrifol am gyflwyno deilliannau'r prosiect.
Fel deilydd y contract, mae'r coleg yn dymuno penodi Rheolwr Prosiect i gefnogi a chynorthwyo'r Cyfarwyddwr Prosiect gyda'r gwaith bob dydd o gyflwyno'r prosiect
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn trefnus iawn sydd â sgiliau gweinyddol rhagorol a phrofiad o weithio gydag amryfal bartneriaid a budd-ddeiliaid a chyfathrebu â hwy. Craidd y rôl hon yw rheoli gweithrediad cyffredinol y Prosiect yn weithredol. Hefyd bydd hi'n ofynnol i ddeilydd y swydd gefnogi'r gwaith o hyrwyddo'r prosiect trwy ysgrifennu a chynhyrchu gwybodaeth gyfathrebu a chyhoeddiadau megis drafftio datganiadau i'r wasg, cylchlythyrau, gwybodaeth wefan, ac adroddiadau. Gweithio'n agos gyda thimau cyfathrebu partneriaid allweddol er mwyn cynyddu ymdrechion y naill a'r llall i gefnogi nodau ac amcanion y prosiect.
Bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd weithio'n achlysurol gyda'r hwyr ac ar benwythnosau, ac weithiau gall fod yn ofynnol iddo/iddi deithio yn y DU a thramor.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Rheoli pob agwedd ar weinyddiaeth, dyletswyddau ariannol a threfniadol yn gysylltiedig â gweithrediad effeithlon y prosiect;
- Cynhyrchu systemau a phrosesau i gefnogi cyflawni deilliannau'r prosiect;
- Gweithio ar y cyd â phartneriaid allanol er mwyn sicrhau cyflwyniad didrafferth y prosiect.;
- Gweithio ar y cyd â'r tîm marchnata trwy ddrafftio datganiadau i'r wasg a deunyddiau hyrwyddol yn ôl yr angen, gan ddefnyddio adnoddau cyfryngau cymdeithasol lle bo'n bosibl;
- Casglu a chofnodi'r holl ddata sy'n ymwneud â'r prosiect, gan gadw cofnodion o berfformiad;
- Cynorthwyo a chefnogi'r gwaith o gynllunio, cydlynu a rheoli digwyddiadau, gan gynnwys digwyddiadau rhyngwladol;
- Cyfrannu at gyflwyno cynllun y prosiect er mwyn cyflawni amcanion y prosiect a'r deilliannau cysylltiedig o fewn amserlen y cytunwyd arni;
- Rheoli'r cyllidebau prosiect er mwyn sicrhau y caiff hawliadau chwarterol eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn amserol;
- Cynorthwyo'r Cyfarwyddwr Prosiect i gydlynu tîm cyflwyno'r prosiect;
- Rheoli'r tîm cyflawni craidd i sicrhau darpariaeth weithredol effeithlon;
- Gweithredu a dyfarnu'r grantiau Cymorth Cystadleuwyr;
- Coladu a chynnal data'r prosiect er mwyn darparu adroddiadau prosiect bob chwarter, gan greu mecanweithiau o'r fath yn ôl yr angen;
- Cynorthwyo gyda monitro perfformiad y prosiect a'r contract yn erbyn targedau/ deilliannau gofynnol;
- Cynhyrchu adroddiadau cynnydd ar gyfer Grŵp Gweithredol y Prosiect;
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Profiad rheoli a chyflwyno prosiect
- O leiaf dwy flynedd o brofiad gweinyddol perthnasol
- Creu a defnyddio taenlenni/cronfeydd data
- Gallu defnyddio ystod o systemau a phecynnau TG yn gymwys
- Profiad o ddrafftio a pharatoi deunyddiau hyrwyddol
- Profiad o weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau allanol
- Profiad o ysgrifennu ar gyfer y we, blogiau a chyfryngau cymdeithasol eraill
- Profiad o gefnogi prosiect
- Cyfathrebwr ardderchog â diplomyddiaeth a thact, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Dealltwriaeth dda o egwyddorion ac arferion marchnata
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr uwch
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Gradd mewn marchnata, cysylltiadau cyhoeddus neu gyfwerth
- Profiad o ymgysylltu a gweithio gyda chyflogwyr
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Benefits
- You will receive 37 days holiday, plus bank holidays and five closure days which totals at 50 days holiday per year. You also receive an additional 4 days after 5 years service.
- Extremely generous pension scheme with employer contributions of 20%.
- Award-winning professional learning and development programme.
- Cycle to work scheme
- Free on-site car parking
- Online and instore retail discounts