MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ogmore Vale Primary,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa arweinyddiaeth L15 - L21* £71,523.00 - £82,047.00*
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Pennaeth - Ysgol Gynradd Cwm Ogwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa arweinyddiaeth L15 - L21* £71,523.00 - £82,047.00*
Pennaeth - Ysgol Gynradd Cwm OgwrDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Dyddiad Dechrau: Ionawr 2026
Mae Ysgol Gynradd Cwm Ogwr wedi'i lleoli i'r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr a ger cyffordd 36 traffordd yr M4. Mae'r ysgol yn gwasanaethu dalgylch amrywiol ac mae'n ganolog i'r gymuned leol gyda staff cyfeillgar. Mae'r ysgol ar daith ddatblygiadol ac mae ganddi 300 o ddisgyblion ar y gofrestr, sy'n cynnwys 3 canolfan adnoddau dysgu.
Yn sgil dyrchafiad y pennaeth parhaol, rydym yn chwilio am Bennaeth neu arweinydd ysgol profiadol a llwyddiannus sydd â phrofiad rheoli sylweddol gyda sgiliau arwain, trefnu a rhyngbersonol amlwg. Byddant yn ymroddedig i arwain drwy esiampl a gweithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned leol i ddarparu amgylchedd lle mae'r staff a'r disgyblion yn cael eu cynorthwyo i ffynnu a chyflawni eu potensial llawn.
Rydym yn chwilio am Bennaeth â gweledigaeth glir i barhau'r ymgyrch i sicrhau safonau uchel yn yr ysgol. Bydd yn ofynnol i chi ddarparu arweinyddiaeth i'r ysgol i gynnal ei llwyddiant ac i sicrhau addysg o safon uchel i bob disgybl a pharhau i godi safonau cyflawniad.
Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu penodiad cyntaf yn Bennaeth feddu ar y NPQH.
Yn dilyn y penodiad, bydd y Pennaeth newydd yn recriwtio Dirprwy Bennaeth oherwydd bod y dirprwy parhaol wedi llwyddo i sicrhau dyrchafiad.
Gwahoddir ymgeiswyr sydd â diddordeb i ddod i'r ysgol ddydd Mawrth 20 Mai am 3.30pm i gael taith anffurfiol. Cysylltwch â swyddfa’r ysgol i roi gwybod am eich bwriad i ymweld: 01656 815640.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 04 Mehefin 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 10 Mehefin 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 24 & 25 Mehefin 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person