MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberystwyth, SY23 3BP
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,372 - £46,431 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,372 - £46,431 / blwyddyn
Darlithydd mewn Gofal PlantApplication Deadline: 16 May 2025
Department: Gofal Plant
Employment Type: Cyfnod Penodol - Rhan Amser
Location: Campws Aberystwyth
Reporting To: Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a Phroffesiynol
Compensation: £25,372 - £46,431 / blwyddyn
DescriptionGorchudd Mamolaeth - 14.4 awr addysgu
Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.
Ydych chi'n angerddol am siapio dyfodol addysg plentyndod cynnar? Oes gennych chi gyfoeth o brofiad a gwybodaeth i'w rhannu gyda darpar weithwyr gofal plant proffesiynol? Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Gofal Plant ymroddedig i ysbrydoli ac addysgu'r genhedlaeth nesaf o ofalwyr ac addysgwyr.
Byddwch yn cyflwyno rhaglen addysgu yn seiliedig ar gymwysterau craidd CCPLD Lefel 2, Lefel 2 a 3 theori ac Ymarfer i ddysgwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau gofal plant Rydym yn chwilio am addysgwr brwdfrydig a deinamig sy'n gallu rhannu eu harbenigedd, gwybodaeth, a phrofiadau byd go iawn i arfogi myfyrwyr â'r sgiliau a'r mewnwelediadau sydd eu hangen arnynt i ragori yn eu gyrfaoedd.
Mae Maes Gofal Plant y Gyfadran yn ffurfio rhan o adran cwricwlwm Aberystwyth.Mae dysgwyr o fewn y Gyfadran yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgarwch allgyrsiol gan gynnwys lleoliadau mewn amrywiol ysgolion a meithrinfeydd lleol a chânt eu cefnogi gan system diwtorial sefydledig.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Gyflwyno rhaglen addysgu wedi'i seilio ar gymwysterau CCPLD Lefel 2 Craidd, Lefel 2 a 3 theori ac ymarfer i ddysgwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau gofal plant
- Yymgymryd â rôl weithredol wrth fonitro, olrhain a marcio gwaith a chyfraniadau dysgwyr
- Ymgymryd â dyletswyddau IQA (Sicrhau Ansawdd Mewnol) ar gyfer yr adran
- Cefnogi sgiliau hanfodol trwy wreiddio llythrennedd a rhifedd wrth gyflwyno bob dydd
- Cymryd rhan a chyfrannu at gyfarfodydd tîm rheolaidd er mwyn safoni meysydd cyflwyno
- Ymwneud â phob agwedd ar systemau rheoli ansawdd yr adran er mwyn cynnal safonau addysgu a dysgu uchel
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfwerth
- Cymhwyster addysgu (Os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad
dechrau'r swydd, bydd hi'n ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn) - TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Profiad addysgu perthnasol
- Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
- Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
- Profiad o gyflwyno sesiynau addysgu o bell trwy Google suit
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein