MANYLION
- Lleoliad: Penybont Primary,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Misol
- Cyflog: £4,922 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Supervisory Assistant - Penybont Primary School
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £4,922 y flwyddyn
Supervisory Assistant - Penybont Primary SchoolDisgrifiad swydd
8.75 awr yr wythnos
Mae Ysgol Gynradd Pen-y-bont am benodi dau Cynorthwyydd Goruchwylio i weithio yn ystod amser cinio, rhwng 11.30am ac 1.15pm bob dydd, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus oruchwylio'r plant yn y neuaddau bwyta a rhannau eraill o'r ysgol a goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.
Mae profiad o weithio gyda phlant yn hanfodol, a byddai'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Rhestr Gwaharddedig Plant Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 30 Ebrill 2025
Dyddiad llunio rhestr fer: 01 Mai 2025
Dyddiad Cyfweld: 13 Mai 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person