MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil,
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,433.00 - I: £49,944.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL BEDLINOG ATHRO ATHRAWES

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyflog: £32,433.00 - I: £49,944.00

PARTNERIAETH ADDYSG TAF BARGOD
(Campws Ysgol Gymunedol Bedlinog)
TERAS HYLTON, TREHARRIS
MERTHYR TUDFUL
CF46 6RG
Pennaeth Gweithredol:
Mr. Ryan Morgan BA (Anrhydedd), NPQH, MInstLM
Nifer ar y Gofrestr (o fewn y Ffederasiwn): 360 Disgybl
Prif Raddfa'r Athro / Athrawes
Mae arnom eisiau'r Athro/ Athrawes o fis Medi 2025-Awst 2026
Athro/ Athrawes Ddosbarth - Blwyddyn (yn y lle cyntaf)
Diolch am eich diddordeb mewn ceisio am swydd ddysgu o fewn Partneriaeth Addysg Taf Bargod. Mae dwy ysgol gynradd o fewn ein Ffederasiwn, sydd wedi eu lleoli yng Nghwm Taf Bargod: Ysgol Gynradd Trelewis, yn ne'r cwm, ac Ysgol Gynradd Gymunedol Bedlinog yn y gogledd. Mae gan y ddwy ysgol ddisgwyliadau uchel o'n disgyblion ac rydym yn buddio o berthnasau cryf, cydweithredol ymysg y staff. Fel partneriaeth, rydym wedi ymroi i ddarparu profiadau addysgol eithriadol sy'n galluogi ein plant i dyfu ac i ffynni gyda'i gilydd. Er ein bod ni'n cynnig y swydd hon drwy gytundeb ffederasiwn - sy'n galluogi lleoli'r ymgeisydd llwyddiannus yn y naill ysgol neu'r llall - mae'r swydd wag wedi ei lleoli ar gampws Bedlinog yn benodol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth isod.
Ysgol Gynradd Gymunedol Bedlinog
Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Bedlinog wedi ei lleoli yng Nghwm Taf Bargod, Merthyr Tudful. Mae ein hysgol yn un llwyddiannus, bywiog a hapus sy'n cynnig cyfleoedd dysgu gwych i bob un o'n plant, yn ogystal â datblygiad proffesiynol ein staff. Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Bedlinog yn ysgol sy'n cynllunio tuag at, ac yn meddwl am, y dyfodol ac mae'n darparu'r disgyblion gydag ystod atyniadol a chyffrous o gyfleoedd dysgu. Mae'r Bwrdd Llywodraethol yn chwilio am Athro neu Athrawes Ysgol Gynradd ysbrydoledig, arloesol, sy'n gallu gweithio i'w gymhelliant/ chymhelliant ei hun ac sy'n gydwybodol er mwyn ymuno â'n tîm gweithgar, ymroddedig yn ein hysgol hynod lwyddiannus. Bydd yn rhaid bod gan yr ymgeisydd arbenigedd a hyblygrwydd er mwyn gweithio mewn Ysgol Gynradd (yn y lle cyntaf bydd y swydd mewn dosbarth o fewn y cyfnod Sylfaen).
Nodweddion yr ymgeisydd llwyddiannus:
?
Ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol.
?
Profiad o ddysgu yng nghyfnod iau'r ysgol gynradd
?
Trefnus a sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
?
Parodrwydd i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol
?
Atebol am safonau'r disgyblion yn eu dosbarth.
?
Creadigol, deinamig a hyblyg.
?
Wedi ymrwymo i godi safonau a gwneud dysgu'n hwyl. Parodrwydd i ymgysylltu.
?
Y gallu i feithrin, ysbrydoli ac ysgogi disgyblion o alluoedd cymysg.
?
Y gallu i weithio fel rhan o dîm i gyflawni'r gorau ar gyfer pob disgybl.
?
Y gallu i ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth yn effeithiol i gefnogi a gwella'r addysg.
?
Gwybodus am ddiwygiadau addysgol cyfredol.
?
Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rheoli ystafell ddosbarth rhagorol.
Dyddiadau Allweddol:-
?
Y dyddiad cau ar gyfer ceisio am y swydd yw dydd Gwener yr 2il o Fai 2025
?
Trefnir y rhestr fer dydd Mawrth y 6ed o Fai 2025. Byddwn yn cysylltu gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus.
?
Trefnir cyfle i arsylwi ar wersi yn yr ysgol gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus dydd Mawrth yr 20fed o Fai 2025 (amser i'w drefnu)
?
Cynhelir y cyfweliadau dydd Mercher yr 21ain o Fai 2025 yn Ysgol Gynradd Gymunedol Bedlinog.
Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â'r ysgol drwy ffonio 01685 351822 er mwyn trafod y swydd ymhellach gyda'r Pennaeth Gweithredol.
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn dydd Gwener yr 2il o Fai 2025 i'r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol