MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro Daearyddiaeth - Ysgol Uwchradd Y Frenhines Elisabeth, Caerfyrddin
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 1575
Sefydliad: Ysgolion
Adran: Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Gradd: Athrawon Ysgol
Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £24.72 - £30.04
Oriau Contract: 37
Dewch i ymuno â'n tîm
Athro Daearyddiaeth i addysgu ar draws yr ystod gallu yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.Rydym yn edrych am athro brwdfrydig, angerddol ac ymroddedig sydd ar gael erbyn mis Medi 2025. Bydd y gallu i addysgu Hanes a/neu Addysg Grefyddol hefyd yn fanteisiol iawn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â chyfadran bywiog a chydwybodol. Mae'r adran ddyniaethau yn un llwyddiannus ac yn un sy'n cynnal safonau uchel ac yn derbyn canlyniadau rhagorol yn gyson ar draws Cyfnod Allweddol 3, 4 a 5.
Rydyn ni'n ymroi i ddarparu profiadau heriol a dymunol i'n disgyblion i gyd ac yn chwilio am unigolyn sy'n danbaid ac yn gallu tanio a herio ein dysgwyr.
Mae Caerfyrddin, tref farchnad fywiog sydd ar gyrion dyffryn prydferth Tywi (ond 30 munud o Abertawe) yn gartref i ysgol gyfun arloesol sy'n ymrwymo i'r ysbryd o 'Ofalu, Dysgu, Arwain'. Mae ein hysgol ar y brig o ran rhagoriaeth addysgol ac rydym yn gymuned ofalgar a chefnogol lle mae ein dysgwyr yn ffynnu yn academaidd ac yn bersonol. Trwy feithrin diwylliant o ofal, dysgu parhaus ac arweinyddiaeth weledigaethol, rydym yn falch o osod y safon mewn addysg a pharatoi ein myfyrwyr ar gyfer dyfodol llwyddiannus.
Os ydych chi'n awyddus i wneud gwahaniaeth sylweddol ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, basem wrth ein boddau i glywed wrthoch.
Am fwy o wybodaeth neu i drefnu ymweliad a'r ysgol cysylltwch â Mel Killingsworth - melanie.killingsworth@qehs.carms.sch.uk
Disgrifiad Swydd: Teacher- English Secondary School.pdf - 187KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 28/04/2025, 09:00
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.