MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, Bridgend, CF31 3DF
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £34,974 - £37,763
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

 Arweinydd Cynnwys Gwe a Digidol

Arweinydd Cynnwys Gwe a Digidol

Coleg Penybont
Mae'r Tîm Marchnata yn chwilio am Arweinydd Cynnwys Gwe a Digidol i arwain a datblygu ei bresenoldeb digidol. Gan adrodd i'r Rheolwr Marchnata, bydd gennych gefndir technegol cryf ynghyd â sgiliau rheoli prosiect a chynhyrchu cynnwys. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â’r Coleg yn y rôl hon gyda datblygiad arfaethedig o wefan newydd y Coleg, y byddwch yn ei harwain a’i rheoli.

Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.