MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,608 - £36,748
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £32,608 - £36,748
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr UnigolynColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Ymarferydd yn y Gwaith - Cerbydau Modur
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy a Ffordd y Bers
Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser
Cyflog: £32,608 - £36,748
Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer ymarferydd yn y gwaith hunangymhellol gyda'n hadran Cerbydau Modur. Bydd yr ymarferydd yn asesu'r ystod lawn o gymwysterau yn y maes pwnc perthnasol yn unol â gofynion y sefydliad Dyfarnu sy'n gysylltiedig â sgiliau a chymhwysedd galwedigaethol.
Hefyd bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad yn y diwydiant Cerbydau Modur.
Bydd yr Ymarferydd yn rheoli llwyth achosion o ddysgwyr ac yn cynnal Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi. Byddant yn hwyluso cofrestru ar gyrsiau addas ac yn darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu. Yn ogystal, byddant yn cyflwyno sesiynau gwybodaeth greiddiol i ddysgwyr naill ai ar sail un-i-un neu mewn fformat gweithdy, gydag uchafswm maint grŵp a argymhellir o wyth cyfranogwr.
Gofynion Hanfodol
- Cymhwyster proffesiynol Lefel 3 o leiaf mewn pwnc perthnasol neu gymhwyster cyfwerth
- Cymhwyster asesydd neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny (TAQA)
- Cymhwyster Sicrhau Ansawdd neu yn fodlon gweithio tuag at hynny (Uned 401 TAQA ar hyn o bryd).
- Cymwysterau Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth) gradd 4 (C) neu uwch
- Meddu ar gymhwyster Lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol neu'n barod i weithio tuag at un.
- Profiad o gysylltu a phartneru â rheolwyr diwydiant
- Gallu dangos ymrwymiad i gynnal a datblygu safonau ansawdd mewn addysg
- Cymwys mewn amrywiaeth o offer a rhaglenni technolegau digidol, gan gynnwys cynnyrch Google a Microsoft. Rhagweithiol gyda thechnolegau a datblygiadau newydd.
- Gallu cynllunio a rheoli llwyth gwaith personol, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau mewn pryd.
- Sgiliau trefnu a rheoli amser gwych
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'r gwaith a wnawn. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Ni fydd cais sy'n cael ei gyflwyno'r Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn Saesneg.
Mae ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch chi'n gwneud cais amdani ac os ydych chi'n llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Fel arfer caiff swyddi eu hysbysebu gydag ystod gyflog. Os ydych yn cael cynnig swydd i chi yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried i benderfynu ar eich cyflog cychwynnol.
Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig