MANYLION
  • Lleoliad: Carmarthenshire,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes - Dylunio a Thechnoleg (Cyfnod Mamolaeth) - Ysgol Dyffryn Taf

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 1566

Sefydliad: Ysgolion

Adran: Dyffryn Taf

Nifer y swyddi gwag: 1

Math o gontract: Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn

Dyddiad gorffen y contract: 30 Mehefin 2026

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Gradd: Athrawon Ysgol

Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr: £24.72 - £30.04

Oriau Contract:

Dewch i ymuno â'n tîm
Mae Dyffryn Taf am benodi athro/athrawes Dylunio a Thechnoleg brwdfrydig ac ysbrydoledig i ymuno â'n tȋm ymroddedig a chynyddol o weithwyr proffesiynol dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth. Dyma gyfle i ymuno â'r ysgol a'r adran ar adeg gyffrous yn ei datblygiad. Wrth i ni barhau i wreiddio'r Cwricwlwm i Gymru a'r newidiadau i gyrsiau 14-16 ac ôl-16, rydym yn chwilio am berson broffesiynol sydd yn barod i gymryd at yr awenau, ac i helpu i gefnogi darpariaeth Dylunio a Thechnoleg yn Nyffryn Taf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle gwych i gael effaith gadarnhaol ar agweddau ein disgyblion tuag at ddylunio creadigol, a'r defnydd o offer a deunyddiadu amrywiol, gan eu cefnogi i ddod yn unigolion mentrus a chreadigol, nid yn unig yn ystod eu hamser gyda ni yn Nyffryn Taf, ond am weddill eu hoes.

Rydym yn ysgol gymunedol sydd yn rhoi pwyslais mawr ar berthnasoedd cadarnhaol, cynhyrchiol a pharchus rhwng disgyblion a staff. Dyma gyfle gyffrous i fod yn rhan o adran ddeinamig o fewn o fewn ysgol gynnes a chroesawgar ar daith gyffrous o arloesi a gwellhad.
Adlewyrchir ein llwyddiant yng nghyflawniadau ein disgyblion, eu brwdfrydedd dros dros brofiadau all-gyrsiol a'u hagweddau cadarnhaol at ddysgu. Yn deillio o'n gweledigaeth ysgol Gallwn, gofalwn, rydym yn gweithio'n galed i hyrwyddo ethos o barch y nail at y llall ac yn annog ein holl ddisgyblion at fod y fersiwn gorau o'u hunain. Mae dysgu, cyflawni, llwyddo a dathlu gallu unigryw pawb i gyfrannu'n gadarnhaol wrth wraidd popeth a wnawn.
Rydym yn croesawi ceisiadau o bob lefel o brofiad. Dylai bod gan yr ymgeisydd wybodaeth ardderchog o'r pwnc a'r angerdd am ddysgu ac ysbrydoli pobl ifanc. Dylent hefyd fod yn ymrwymedig i gyflawni rhagoriaeth a bod yn barod i gefnogi gweledigaeth yr ysgol. Yn gyfnewid am hyn, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl athrawon yn cael eu cefnogi y neu dysgu a'u datblygiad proffesiynol parhaus trwy hyfforddiant cydweithredol ac ethos tȋm cryf.
Rydym yn croesawu ymweliadau gan ddarpar ymgeiswyr ac yn agored i drafod/cynnig cyrsiau sy'n cyflwyno bwydlen Dylunio a Thechnoleg iach i ddisgyblion; os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech ei wneud, cysylltwch â'r ysgol os gwelwch yn dda i wneud y trefniadau.

Disgrifiad Swydd: Maternity Cover D&T Teacher - Job Advert and Description.pdf - 652KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 9 Mai 2025

Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 28/04/2025, 09:00

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.