MANYLION
  • Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Digymhwyster: £25,371 - £29,942 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Astudiaethau Gofal a Phlentyndod a delir fesul awr

Coleg Penybont

Cyflog: Digymhwyster: £25,371 - £29,942 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)

Darlithydd Astudiaethau Gofal a Phlentyndod a delir fesul awr

Sylwch, mae hwn yn gontract fesul awr sy'n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - maent yn cael eu cynnig ar sail achlysurol, ad hac i gyd-fynd ag anghenion y gwasanaeth ac felly gallant amrywio.

Digymhwyster: £25,371 - £29,942 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)

Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn (pro rata, fesul awr)

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont i gyfrannu at addysg a datblygiad y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Fel Darlithydd Telir Awr, byddwch yn cynllunio, datblygu, gwerthuso a chyflwyno cynnwys cwricwlwm diddorol ac arloesol ar draws amrywiol raglenni dysgu. Byddwch yn darparu mentoriaeth i ysbrydoli ac addysgu myfyrwyr, gan eu harfogi â'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes gofal plant neu'r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd eich arbenigedd yn allweddol wrth lunio dyfodol ein myfyrwyr a'r cymunedau y byddant yn eu gwasanaethu.

Bydd gennych wybodaeth am ddulliau damcaniaethol o ymdrin ag arferion gofal plant ac iechyd a gofal cymdeithasol, a phrofiad proffesiynol priodol mewn lleoliadau Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd gennych gymhwyster cydnabyddedig mewn Astudiaethau Plentyndod neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a gradd berthnasol neu gymhwyster lefel uwch. Mae profiad o weithio gyda phobl ifanc a/neu dystysgrif TAR (neu barodrwydd i weithio tuag at un) yn hanfodol. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr byddwch yn frwd dros ysgogi pob dysgwr i fod yn barod ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus ym maes gofal plant neu'r sector iechyd a gofal cymdeithasol.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.