MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Y Garn

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944

Addysgu am gyfnod penodol yn Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn

Mae hwn yn swydd tymor penodol gyda dyddiad dechrau ar Ebrill 28ain, 2025.

Mae pennaeth a llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn yn dymuno penodi athro ysbrydoledig a hynod effeithiol ar gyfer dosbarth Blynyddoedd 4 a 5 yn Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn am gyfnod penodol o un tymor. Rydym yn ysgol fywiog, hapus a chefnogol, lle mae darparu amgylchedd diogel a gofalgar yn flaenoriaeth. Mae Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn yn ysgol unigryw sy'n llwyddo i hyrwyddo ymwybyddiaeth gref o'n hardal a'n cymuned a balchder mawr ynddynt.

Rydym yn chwilio am ymarferydd dosbarth rhagorol sydd ag angerdd am ddysgu plant ac sy'n ymdrechu i gyrraedd y safonau uchaf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm o staff uchelgeisiol a blaengar a bydd yn gallu datblygu perthynas waith gref â disgyblion, staff a rhieni. Bydd yn cyfrannu at ethos gweithio fel tîm sy'n nodwedd gref o'r ffederasiwn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhywun sy'n croesawu'n greadigol athroniaethau'r Cwricwlwm i Gymru ac sy'n barod i gyfrannu at fywyd ysgol gyfan.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan athrawon sydd newydd gymhwyso ac athrawon profiadol.

Rydym yn croesawu ymweliadau â'r ysgol trwy apwyntiad. Cysylltwch â swyddfa'r ysgol ar 01437 710 517 i drefnu ymweliad.

Fideo - Cyngor Sir

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.