MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Carmarthenshire,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 17 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 1387
Sefydliad: Ysgolion
Adran: Ysgol y Strade
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Gradd: Athrawon Ysgol
Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £24.11 - £29.30
Oriau Contract: 1.00 FTE
Dewch i ymuno â'n tîm
Mae'r ysgol yn awyddus i benodi athro/athrawes cymwys a brwdfrydig i swydd llawn amser - cytundeb blwyddyn yn y lle cyntaf. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu Gwyddoniaeth i CA3 a phwnc arbenigol yn CA4 a CA5.
Ymfalchiwn yn yr hanes hir o lwyddiant sydd i'r ysgol a'r adran. Mae ffocws cryf ar ddatblygu gwybodaeth a sgiliau addysgu athrawon o fewn yr ysgol a sicrhau amgylchedd dysgu symbylus. Edrychwn am unigolyn egniol fyddai'n frwd i gyfrannu'n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr ysgol. Bydd cyfle i ddysgu dosbarthiadau ar draws yr ystod oed a gallu. Mae canlyniadau'r adran ar bob lefel yn destun balchder yn flynyddol.
Gellir cael mwy o wybodaeth am yr ysgol, ynghyd â chopi o'r prosbectws oddi ar ein gwefan, www.ysgolystrade.org
Hysbysir ymgeiswyr am un elfen o "Ddatagniad ysgol ar Recriwtio a Phenodi Staff" sef yr angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos copiau gwreiddiol o dystysgrifau e.e. gradd ar ddiwrnod y cyfweliad.
Gellir cael ffurflen gais a manylion pellach trwy gysylltu â Mrs Beryl Bowen, Swyddog Cefnogi Llywodraethwyr ar rif yr ysgol neu drwy e-bost: beryl.bowen@ysgolystrade.org . Os am sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth Cynorthwyol, Mr Rhys Browning drwy ffonio'r ysgol ar 01554 745100.
Disgrifiad Swydd: Athro Teacher Disgrifiad Swydd Ysgol Y Strade.pdf - 196KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 17/03/2025, 10:00
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.