MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Crosskeys,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £26.77 - £44.64 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 13 Ebrill, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £26.77 - £44.64 yr awr
Tiwtoriaid Cymraeg i OedolionSwydd ddisgrifiad
10 awr yr wythnos
Tymor Penodol – 31/05/26
Dych chi’n frwdfrydig dros y Gymraeg ac eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu yn ardal Gwent? Hoffech chi ein helpu i gwrdd â’r galw mawr am ddosbarthiadau yn yr ardal?
Oes diddordeb gyda chi mewn dysgu Cymraeg i oedolion fel tiwtor rhan amser?
Oherwydd y cynnydd yn nifer yr oedolion sydd yn dymuno dysgu'r Gymraeg yn ardal Gwent, mae Dysgu Cymraeg Gwent eisiau penodi tiwtoriaid rhan amser i'n helpu i ymateb i'r her. Bydd y gwaith yn bennaf gyda’r hwyr a phenwythnosau ond bydd cyfleoedd i ddysgu yn ystod y dydd.
Wrth reswm, mae rhugledd yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y gwaith hwn.
Er y dymunir penodi tiwtoriaid sy â phrofiad dysgu ym maes Cymraeg i Oedolion ac sy’n meddu ar gymhwyster dysgu TAR, dylid nodi y croesewir ceisiadau gan y sawl sy heb brofiad na chymhwyster gan y darperir hyfforddiant cyflawn yn ôl yr angen gan Dysgu Cymraeg Gwent. Yn anad dim, mae’r brwdfrydedd i ddysgu’r Gymraeg i oedolion yn gwbl hanfodol ac os dych chi’n frwd dros ddysgu’r Gymraeg byddwn ni’n gallu eich hyfforddi.
Gallai’r gwaith dysgu rhan amser hwn fod yn gyfle i ddatblygu gyrfa lawn amser mewn maes cyffrous sy'n un o feysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yn ei tharged o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dych chi'n chwilio am her newydd, yn mwynhau dysgu neu yn chwilio am gyfeiriad gyrfaol newydd? Os felly, mae Dysgu Cymraeg Gwent eisiau clywed gennych.
Mae'n hanfodol bod yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu cyfathrebu’n dda, blaenoriaethu gwaith, gweithio’n annibynnol a gweithio'n dda fel rhan o dîm.
Mae Dysgu Cymraeg Gwent a leolir yng Ngholeg Gwent ar gampws Crosskeys yn gyfrifol am holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn ardal Gwent. Darperir dosbarthiadau wyneb yn wyneb ac ar blatfformau electronig fel Zoom a TEAMS i ddysgwyr o lefel Mynediad hyd at lefel Gloywi.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) os yn briodol.
Sylwch y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Bydd swyddi darlithio yn gofyn am gymhwyster addysgu (e.e. TAR) neu barodrwydd i ennill un gyda chyfnod penodol o amser. Bydd hyn yn ofynnol o dan eich contract cyflogaeth a chofrestriad CGA.
Yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn sail i hyn a byddwn yn glynu wrthi ar bob cam o’r broses recriwtio.
Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn wedi’u hymgorffori yn ein hymarferion gwaith o ddydd i ddydd gyda’n dysgwyr, ein cydweithwyr a’n partneriaid.
Rydym yn gwybod mai’r timau mwyaf llwyddiannus yw’r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn sail i’n diwylliant yn Coleg Gwent. Rydym yn dymuno i bob unigolyn deimlo’n hyderus, teimlo’n falch a theimlo ei fod yn gallu bod ei wir hunan yn y gwaith.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliaeth a chynyddu amrywiaeth yn y Coleg trwy chwalu rhwystrau a chefnogi pob aelod o staff i gyrraedd ei botensial. I sicrhau cynrychiolaeth well yn ein gweithlu, croesawn geisiadau, yn benodol, gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl dduon, pobl Asiaidd, a phobl o leiafrifoedd ethnig, menywod, pobl LGBTQ+, pobl anneuaidd a phobl gydag anableddau. Gyda’n gilydd, rydym yn parhau i greu gweithle sydd, nid yn unig, yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr, ond sydd, hefyd, yn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad ieithoedd eraill a phawb, beth bynnag eu hoedran, statws priodasol neu bartneriaeth sifil (un rhyw neu ddau ryw), nam neu gyflwr meddygol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, yn unol â’n Polisi Cyfleoedd Cyfartal. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddïo ar gael.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac rydym wedi ymlynu wrth y Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon. Mae 6 Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd (Enabled, Men’s Alliance, Women Together, Cynefin, LGBTQ+ a Race Alliance) yn allweddol o ran cefnogi’r gwaith hwn a darparu cymorth i gymheiriaid.
Beth sy’n dod â ni ynghyd?
Rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant o gynhwysiant sy’n grymuso ein pobl i ffynnu ac sy’n meithrin ymdeimlad o berthyn.
I gefnogi’r Coleg i fod yn gymuned sy’n llawn parch, mae gennym grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Gwrandewch ar ein Hyrwyddwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn siarad am y rhesymau eu bod mor angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – Dolen yn y ddogfen ynghlwm.
Mae eich lles o bwys
Mae eich lles yn bwysig i ni. Rydym yn dymuno sicrhau y gallwch chi wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a chyrraedd eich potensial llawn. Mae rhaglen o weithgareddau lles drwy gydol y flwyddyn ac mae’r ap Headspace ar gyfer yr holl staff yn sail i hynny. Mae’n cynnwys detholiad amrywiol o fyfyrdodau ar gyfer anghenion dechreuwyr a’r rhai mwy profiadol. Hefyd, mae gennym ni Bartneriaid sy’n hyrwyddwyr iechyd meddwl hyfforddedig a mynediad cymorthdaledig at gampfa. Rydym yn benderfynol o greu amgylchedd sy’n cefnogi iechyd meddwl ac iechyd corfforol pawb.
Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd o’r gwaith yn bellach, mae croeso i chi ffonio Sean Driscoll, Rheolwr Ansawdd a Hyfforddiant Dysgu Cymraeg Gwent: 07485 329 789 neu'i ebostio: sean.driscoll@coleggwent.ac.uk
Dyddiad Cau: 13/04/25
Dyddiad Cyfweliad: 01/05/25