MANYLION
  • Lleoliad: Tremains Primary School,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £17,419 - £17,986 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Tremains

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £17,419 - £17,986 y flwyddyn

Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Tremains
Disgrifiad swydd
28.5 awr yr wythnos

Yn ystod tymor yr ysgol

Dros dro hyd at 31 Mawrth 2026

Rydym yn chwilio am Swyddog Cymorth Dysgu angerddol, ysbrydoledig, a chydwybodol i ymuno â'r tîm llawn cymhelliant yn Ysgol Gynradd Tremains. Mae'r Corff Llywodraethu yn chwilio am berson proffesiynol ac uchelgeisiol sy'n angerddol am drawsnewid dysgu ein disgyblion ar wahanol gamau datblygu.

Mae'r swydd hon yn gyfle gwych i chi ymuno â'n tîm ymroddedig i ddarparu cymorth academaidd a phersonol o ansawdd uchel i'n disgyblion. Mae angen rhywun arnom sy'n gallu galluogi dysgwyr i gyflawni eu gorau gyda'r gallu a'r sgiliau i ymgysylltu ac uniaethu â disgyblion oed cynradd a'u meithrin. Mae gwybodaeth gadarn am ymyrraeth llythrennedd a rhifedd a llesiant yn hanfodol.

Byddem yn disgwyl y byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos, neu'n gallu datblygu, y wybodaeth a'r sgiliau i gyflwyno ymyriadau sy'n briodol i blant sy'n gweithio y tu ôl i'r disgwyliadau yn yr ystod oedran hwn. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o Thrive ac ELSA yn hanfodol.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Rhestr Gwaharddedig Plant Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 20 Mawrth 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 24 Mawrth 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 28 Mawrth 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person