MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Bryn Castell,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £22,985 - £23,758 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Goruchwyliwr y Clawr - Ysgol Bryn Castell - Dros Dro
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £22,985 - £23,758 y flwyddyn
Goruchwyliwr y Clawr - Ysgol Bryn Castell - Dros DroDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Goruchwyliwr Llanw dros dro i gyflenwi ar secondiad o hyd at ddeuddeg mis
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Bryn Castell Park yn dymuno penodi Goruchwyliwr Llanw brwdfrydig, cydwybodol a gofalgar i weithio mewn tîm addysgu llawn cymhelliant a chyfeillgar. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn defnyddio dull cadarnhaol, arloesol, sy'n canolbwyntio ar atebion i hyrwyddo dysgu, ymgysylltu, presenoldeb a llesiant disgyblion, gan eu cynorthwyo i weithio tuag at gyflawni hunanreoleiddio ac annibyniaeth.
Mae Ysgol Bryn Castell (YBC) yn ysgol ddydd gymunedol arbennig a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n darparu addysg i ddisgyblion 7 i 19 oed sydd ag Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol (AYECh) cymhleth gan gynnwys awtistiaeth ochr yn ochr ag anawsterau dysgu penodol ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY) eraill.
Bydd gennych brofiad o weithio gyda disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ynghyd â gwybodaeth a dealltwriaeth o'r cwricwlwm a strategaethau/rhaglenni dysgu perthnasol i ddisgyblion ag ADY. Mae hwn yn gyfle gwych i’r rhai sydd yn awyddus i ddatblygu eu taith ddysgu broffesiynol ymhellach mewn amgylchedd cynhwysol a gofalgar sy'n angerddol am alluogi pobl person ifanc i gyflawni ei botensial llawn.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 28 Mawrth 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 31 Mawrth 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 07 Ebrill 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person