MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coychurch Primary School,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Ystod ISR L12-£66,430 i L18-£77,000
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Pennaeth - Ysgol Gynradd Llangrallo
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Ystod ISR L12-£66,430 i L18-£77,000
Pennaeth - Ysgol Gynradd LlangralloDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Dyddiad Dechrau Medi 2025
Mae Llangrallo yn ysgol gynradd fywiog a chroesawgar sydd wedi'i lleoli yng nghanol cymuned glos ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r Corff Llywodraethu yn ceisio penodi unigolyn ymroddedig a dynamig yn Bennaeth yn ein Hysgol Gynradd uchel ei pharch a phoblogaidd. Mae ein hysgol yn gwasanaethu dalgylch amrywiol ac eang ac mae'n adnabyddus am ei hysbryd cymunedol cryf.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hanes amlwg fel arweinydd effeithiol a gweledigaeth glir i adeiladu ar arolygiadau llwyddiannus yr ysgol yn ddiweddar. Yn ogystal, byddwch yn allweddol wrth weithredu strategaethau i godi safonau cyflawniad yn gyson, meithrin amgylchedd lle gall pob plentyn ffynnu yn academaidd, yn gymdeithasol, ac yn emosiynol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau rhyngbersonol eithriadol sy'n ymrwymedig i feithrin a chynnal partneriaethau gyda disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr, a'r gymuned leol ehangach.
Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu penodiad Pennaeth cyntaf feddu ar y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) a dangos dealltwriaeth gref o bolisïau ac arferion gorau addysgol presennol.
Os ydych yn arweinydd ymroddedig sy'n angerddol am gael effaith ystyrlon ym maes addysg, rydym yn eich annog i wneud cais am y cyfle cyffrous hwn. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at gael eich cais a thrafod sut y gallwch gyfrannu at lwyddiant parhaus ein hysgol.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 19 March 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 25 Mawrth 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 7 & 8 Ebrill 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person