MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol y Ferch o’r Sger Primary School,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Ystod ISR L5 £55,900 i L9 £61,705
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol y Ferch o'r Sger

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Ystod ISR L5 £55,900 i L9 £61,705

Dirprwy Bennaeth - Ysgol y Ferch o'r Sger
Disgrifiad swydd
Mae Corff Llywodraethu Ysgol yr Ferch o'sger yn dymuno penodi a

Dirprwy Bennaeth.

Mae Ysgol Y Ferch o’r Sgêr yn darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer disgyblion 3 i 11 oed yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Rydym yn ymfalchïo yn yr amgylchedd croesawgar, fagwraethol a chyfeillgar yr ydym wedi ei greu ac wrth i’r ysgol dyfu rydym yn awyddus i ddatblygu’r cysyniad o gymuned. Mae staff yr ysgol yn dîm cryf, angerddol ac ymroddedig. Mae hyn yn cynnig profiad positif a phleserus i’n dysgwyr.

Fe fydd gan Ddirprwy Bennaeth yr ysgol ran flaenllaw i’w chwarae yn y gwaith o ddatblygu’r ysgol ym mhellach a rhoi arweiniad strategol arloesol gyda’r Pennaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Os hoffech drafod y swydd wag hon ymhellach, cysylltwch ag Amanda Evans ar 07774032624.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 26 Mawrth 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 27 Mawrth 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 10 Ebrill

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person